Neidio i'r prif gynnwy

David

Mae David, 64, wedi neidio'r rhwystrau i golli pwysau ac wedi dysgu nad yw cyn galeted i fod yn iach ag y tybiai.

Beth wnaeth i chi gofrestru gyda Cymorth gyda fy Mhwysau?

Fe wnes i sylweddoli mod i angen cymorth i golli pwysau wedi llawer o lwyddiannau a methiannau dros y 45 mlynedd diwethaf. Mae problem gor-dewdra wedi bod gen i ers amser hir iawn. Roedd fy mhwysau yn cynyddu wedi pob diet roeddwn i'n ei ddilyn ac roeddwn i'n gwybod bod gen i broblem ac angen cymorth.

Ydych chi wedi cael unrhyw brofiad gyda gwasanaethau rheoli pwysau o'r blaen?

Flynyddoedd lawer yn ôl, fe wnaeth fy meddyg fy nghyfeirio at ddietegydd a dim ond sgwrs oedd hi a dweud y gwir ac nid oedd grŵp na llenyddiaeth ddefnyddiol ac roeddwn i'n meddwl i fy mod i wedi canfod y diet perffaith beth bynnag. Wnaeth o ddim gweithio ond allai o ddim bod yn fwy gwahanol i'r profiad hwn.

Beth ydych chi'n ei feddwl o Bwyta Caredig?

Mae'n brofiad personol, ond rydych hefyd yn elwa o weithio gyda chriw o bobl, sydd â'r un sialensiau â chi. Mae gennych i gyd nod cyffredin felly does dim barnu. Mewn llawer o ffyrdd, dyw'r dietegydd ddim ond yn gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod ac yn llywio'r drafodaeth fel y gall pob un ddysgu oddi wrth y naill a'r llall. Ac mae'r dietegydd bob amser wrth law gydag e-byst ac maen nhw'n ymateb yn gyflym i unrhyw ymholiadau. Roedd y llyfrynnau hefyd yn addysgiadol iawn ac wedi eu gosod ar y lefel gywir felly ddim yn rhy dechnegol, ond yn addysgiadol. Beth oedd yn dda oedd bod y cyfarfodydd yn atgyfnerthu'r wybodaeth yn y llyfrau ac yn helpu dealltwriaeth bellach ohonynt.

Beth wnaethoch chi ei ddysgu?

Rydym oll yn ddynol ac mae yn llawer mwy na dim ond gwybod beth i'w wneud. Dros y cwrs, fe wnaethom ni ddysgu am reolaeth dognau, gwerth maethol, y ddau yn ddefnyddiol iawn, cynghorion gan eraill yn y grŵp, y ffordd y mae eich corff yn ymateb i golli pwysau, seicoleg colli pwysau  a'r seicoleg o fwyta. Roedd hefyd yn gyfrwng o ran fy helpu i wahaniaethu’r ffuglen oddi wrth y ffeithiau o ran colli pwysau. Mae cymaint o wybodaeth ar gael ac mae hi'n anodd gwybod beth i ymddiried ynddo felly mae hi'n dda ei glywed gan arbenigwyr.

Beth sydd wedi newid?

Mae fy meddylfryd yn llawer mwy cadarnhaol ac rwy'n herio beth rwy'n ei fwyta neu beth yw'r dewisiadau. Rydw i wedi dechrau cerdded bum milltir y dydd ac wir yn mwynhau bod allan o'r tŷ ac yn weithgar oherwydd ei bod yn gymaint haws erbyn hyn gan fy mod i wedi colli peth pwysau. A dw i yn bendant yn gwybod nad ydw i fyth eisiau bod yn fawr eto.

Beth oedd yn syml ynghylch gwneud newidiadau?

Rydw i’n gaeth i fara ac wedi bod felly ers blynyddoedd lawer. Roeddwn i wedi meddwl y byddai hi'n anodd rhoi'r gorau i fwyta cymaint o fara, ond fe wnes i ddechrau gwerthfawrogi’r holl opsiynau eraill sydd ar gael. Yr holl wahanol fwydydd y gallwn i eu bwyta yn hytrach na bara ac roedd yn ymwneud â herio fy hun a'u canfod nhw.

Beth oedd yn heriol i chi?

Doeddwn i ddim yn gweld dim yn anodd gyda'r cwrs, roedd pawb yn gyfeillgar iawn, agored iawn, doedd neb yn trafod pwysau yn ystod y cyfarfodydd ac fe ddisgynodd y cyfan i'w le. Dydych chi ddim yn sylweddoli bod eich meddylfryd yn llawn rhwystrau ac esgusodion hyd nes eich bod ar y rhaglen ac rydych chi'n edrych am resymau i beidio gwneud dewisiadau iach.

Sut mae eich bywyd erbyn hyn?

Mae'n wahanol iawn. Fe ddylwn i fod yn gwisgo bresys pengliniau ond dydw i ddim oherwydd bod colli'r pwysau yn golygu y gallaf gerdded hebddyn nhw. Mae wedi fy ngrymuso i golli'r pwysau yna a gwybod mod i'n gallu ei wneud a'i gadw i ffwrdd o safbwynt iechyd, dangosodd profion gwaed flwyddyn yn ôl arwyddion o glefyd yr afu brasterog, ond yr wythnos ddiwethaf, roeddent i gyd yn arferol a doedd dim yn rhy uchel nag isel, felly mae’n teimlo'n wych i drawsnewid fy iechyd.