Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth am ddim gan arbenigwr rhoi'r gorau i ysmygu yn y GIG

Mae ein cynghorwyr yn rhoi'r cyfle gorau i chi roi'r gorau i ysmygu

Pan fyddwch yn cysylltu â Helpa Fi i Stopio byddwch yn cael eich paru ag un o’n harbenigwyr rhoi’r gorau i ysmygu cyfeillgar, a fydd yn rhoi’r cymorth sydd ei angen arnoch i gael y cyfle gorau i roi’r gorau i ysmygu.

Gall eich cynghorydd helpu gyda phob rhan o'ch taith i roi'r gorau iddi. Bydd yn eich helpu i aros ar y trywydd iawn gyda hyd at 12 cyfarfod wythnosol dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, naill ai mewn cyfarfodydd un i un neu mewn grŵp.

Bydd yn cymryd yr amser i ddysgu amdanoch chi, a beth sy'n gweithio i chi - ac yn creu sesiynau penodol i'r hyn sydd ei angen arnoch chi. Bydd eich cynghorydd yn eich helpu i gael gafael ar feddyginiaethau rhoi’r gorau i ysmygu am ddim gwerth hyd at £250, eich helpu i osod dyddiad rhoi’r gorau iddi sy’n gweithio i chi, a bod yno i’ch helpu i ddyfalbarhau.

Gallant siarad am sut i fynd i’r afael â sefyllfaoedd anodd neu sbardunau, a’ch helpu i ddweud wrth eich teulu, ffrindiau a chydweithwyr eich bod wedi rhoi’r gorau iddi.

Ac os oes angen ychydig o gymorth ychwanegol arnoch, gallant hyd yn oed eich helpu rhwng eich apwyntiadau wythnosol. Rydyn ni yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd.
 

 

 

Rydych chi bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi yn llwyddiannus gyda chefnogaeth Helpa Fi i Stopio

Os ydych yn ysmygu 20 sigarét y dydd, gallech arbed hyd at £380 y mis pan fyddwch yn rhoi'r gorau i ysmygu.

Byddwch yn dechrau teimlo'r manteision iechyd o fewn ychydig oriau yn unig. Yn yr wythnos gyntaf yn unig, bydd eich synnwyr blas ac arogl yn gwella a bydd anadlu'n teimlo'n haws. Mewn ychydig fisoedd, bydd y peswch a'r gwichian yn lleihau a bydd eich iechyd cyffredinol yn gwella. Dros amser bydd eich risg o ganser yr ysgyfaint neu drawiad ar y galon yn gostwng hefyd.

Mae ein holl gefnogaeth yn rhad ac am ddim, ac yn anfeirniadol. Rydym yma i'ch helpu i roi'r gorau iddi - a gallwn roi awgrymiadau i chi i'ch helpu i osgoi sefyllfaoedd anodd, rheoli'ch chwantau, a rhoi'r gorau iddi am byth.