Neidio i'r prif gynnwy

Yr amgylchedd a Chadwraeth

Menter Greener for Life y Robiniaid

Tystlythyr; 'Roedd y rôl yn apelio ataf gan fy mod mewn swydd feichus iawn. Mae gen i ddiddordeb mewn garddio a dyna rwy’n ei wneud yn fy amser hamdden ac felly mae gardd y Robiniaid yn golygu fy mod yn gallu defnyddio rhywbeth rwy’n ei fwynhau i helpu eraill. Mae pob dydd a phob tymor yn wahanol, o arddio o ddydd i ddydd i siarad â chleifion, staff ac ymwelwyr am y gerddi. Mae’r bobl yr wyf wedi cwrdd â nhw wedi gwneud fy amser yma’n un arbennig iawn.’ 

Fel Robin a Gwirfoddolwr Greener 4 Life, byddwch yn cael cyfle i wirfoddoli yn Ysbyty Glan Clwyd, i roi cyfleoedd a lle i bobl wella eu hiechyd a lles drwy dreulio amser mewn llefydd gwyrdd, gweld bywyd gwyllt a gerddi hardd.

Mae’r rhaglen Greener 4 Life yn helpu i gefnogi’r amgylchedd naturiol, annog ac amddiffyn bywyd gwyllt a hyrwyddo cynaliadwyedd gyda bioamrywiaeth well. Byddwch chi (fel gwirfoddolwr) yn helpu i adnewyddu, cynnal a hyrwyddo defnyddio llefydd gwyrdd o gwmpas Ysbyty Glan Clwyd yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth amgylcheddol ymysg staff a chleifion.

Gallwch gymryd rhan mewn cynnal a chadw a gwella llefydd gwyrdd a gardd y Robiniaid (plannu a thocio), cyfleoedd addysgu neu siarad â chleifion a staff sydd eisiau gofyn cwestiynau am y prosiect  Greener 4 Life a’i nodau, neu gael gwybodaeth am arddio gan rywun sy’n dda am arddio a thyfnu planhigion.

Os hoffech dangos eich diddordeb i wirfoddoli, cysylltwch â’r Cydlynydd Gwirfoddoli Rachael Farnell ar 01745 448740 x 7026 neu Rachael.Farnell@wales.nhs.uk a byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â recriwtio gwirfoddolwyr.