Neidio i'r prif gynnwy

Dyfed Edwards

Mae Dyfed Edwards wedi bod yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ers Ebrill 2018.  Fe’i benodwyd yn Ddirprwy Gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru ym Medi 2018, ar ôl bod ar y Bwrdd ers Hydref 2017.

Mae Dyfed yn gyn-arweinydd Cyngor Gwynedd, swydd y bu ynddi rhwng 2008 a 2017, pan roddodd y gorau i fod yn gynrychiolydd etholedig.  

Roedd hefyd yn Is-lywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a bu’n gynrychiolydd ar Is-grŵp Cyllid Llywodraeth Cymru/Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn llefarydd ar dai, y Gymraeg, treftadaeth, chwaraeon a’r celfyddydau yn ystod y cyfnod hwn. Bu Dyfed hefyd yn aelod o Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Dai ar gyfer Poblogaeth sy’n Heneiddio a Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar Gymunedau Cymraeg. 

Mae gan Dyfed wybodaeth eang am addysg yng Nghymru fel cyn athro a llywodraethwr ysgolion cynradd ac uwchradd, a bu’n arweinydd portffolio dros addysg yng Ngwynedd cyn iddo gael ei benodi’n Arweinydd.  

Mae wedi gweithio i sefydliadau gwirfoddol a’r trydydd sector yng Ngwynedd ac mae ganddo brofiad yn y sector Busnesau Bach a Chanolig gan iddo sefydlu busnes cyhoeddi cerddoriaeth cyn ymgymryd â’r swydd fel Arweinydd Cyngor Gwynedd.

Cafodd Dyfed ei gydnabod am ei waith drwy’r wobr Gwleidydd Lleol Cymreig y Flwyddyn yn 2009. 

Cafodd ei eni a’i fagu yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam ac mae nawr yn byw ym Mhenygroes, Gwynedd. Yn ei amser hamdden, mae Dyfed yn mwynhau chwaraeon, y celfyddydau, cerdded a darllen.