Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio

Mae recriwtio a chadw staff yn her i'r GIG cyfan ac nid yn unig yng Ngogledd Cymru ac mae'n bwysig bod gennym weithlu medrus a chynaliadwy i'n helpu i ddarparu ein gwasanaethau.

Rydym wedi cael llwyddiant o ran lleihau nifer y staff asiantaethau, staff locwm a staff dros dro a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd. Rydym wedi troi nifer o swyddi locwm yn swyddi parhaol yn y gobaith bod modd i ni ddenu staff i aros gyda ni. Mae penodiadau dros dro wedi lleihau'n sylweddol, gan fod hysbysebu deiliaid swyddi fel rhai parhaol yn flaenoriaeth. Ym mis Rhagfyr 2022, roedd 41 o uwch swyddi dros dro, ym mis Rhagfyr 2023, roedd hyn wedi lleihau i ddwy swydd.

I'n helpu gyda'n hymgyrch recriwtio, rydym wedi defnyddio ystod o ddulliau hysbysebu gwahanol, yn ogystal â mynychu diwrnodau agored??

Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ardderchog ac mae gennym uchelgais i ddatblygu ein gweithlu ein hunain, ac i roi cymorth gyda datblygiad gyrfaol