Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraethu a'r Bwrdd

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi parhau i gryfhau ei arweinyddiaeth a deinamig newydd y Bwrdd trwy nifer o uwch benodiadau parhaol i'r Bwrdd, sy'n rhoi'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen i arwain y sefydliad. Mae hyn yn cynnwys penodi Cadeirydd a Phrif Weithredwr newydd. Mae Aelodau Annibynnol newydd hefyd wedi cael eu penodi i'r Bwrdd i roi cymorth, craffu ac arbenigedd.

Datblygiad arall ar lefel uwch fu'r cynnydd sylweddol a wnaed ar leihau uwch rolau dros dro. Ym mis Rhagfyr 2022, roedd 41 o uwch swyddi dros dro, ym mis Rhagfyr 2023, roedd hyn wedi lleihau i ddwy swydd.

Mae'r gwelliannau hyn ar lefel uwch wedi cael eu hadlewyrchu yn yr ail adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd gan Archwilio Cymru, sy'n dangos bod cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud.

Mae ein Tîm Llywodraethu wedi cael ei atgyfnerthu trwy nifer o benodiadau allweddol newydd, gan gynnwys Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol newydd.