Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau a Chyfleusterau

Mae ansawdd adeiladau a chyfleusterau'r Bwrdd Iechyd wrth wraidd cynllunio gwasanaethau. Mae llawer o waith wedi cael ei wneud i asesu lle bo angen buddsoddi ar gyfer adeiladau a chyfleusterau newydd, lle bo angen gwelliannau i gynnal yr ystad bresennol a lle bo cyfleoedd i gael gwared ar ystad nad yw'n addas at ei diben mwyach neu ystad nad yw'n cael ei defnyddio.

Er enghraifft, mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod yn ffodus i gael cymorth ariannol i wella cyfleusterau clinigol yn Ysbyty Llandudno, gan greu hwb orthopedig a fydd o gymorth mawr i fynd i'r afael ag oedi ac ôl-groniadau sy'n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer llawdriniaeth i osod cymalau newydd.

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gweithio i gael cyllid ar gyfer cyfleusterau iechyd meddwl i gleifion mewnol newydd ar safle Glan Clwyd, ac ar gyfer cyfleusterau ehangach yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl.

Mae'r rhain oll yn brosiectau uchelgeisiol a fydd yn darparu'r ystad a'r cyfleusterau o'r ansawdd sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel ar gyfer pobl Gogledd Cymru.