Ein huchelgais yw gweld gwelliant sylweddol o ran ansawdd delio â chwynion a phryderon ynghylch yr holl wasanaethau ar draws BIPBC. Rydym yn credu bod hyn yn rhan bwysig o sicrhau bod pobl yn derbyn gofal diogel o ansawdd uchel.
Rydym yn annog pobl i dynnu sylw at unrhyw faterion neu bryderon, fel rhan o'n hymrwymiad i ddod yn sefydliad sy'n dysgu ac fel rhan o'n hagenda gwella parhaus. Mae llais y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu, yn hollbwysig o ran rhoi dealltwriaeth ehangach i ni am sut y gallwn wella. Rydym yn darparu nifer o ffyrdd gwahanol i bobl wneud hyn gan gynnwys adborth ffurfiol, trwy gwynion, digwyddiadau ac adborth cleifion, ac yn anffurfiol trwy straeon cleifion, yn ogystal â sicrhau bod Tîm y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS), ar gael i roi cymorth ar bob lefel yn y sefydliad, lle bo hynny'n bwysig a lle y gall pobl deimlo'r effaith fwyaf yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Fel y Bwrdd Iechyd mwyaf yng Nghymru, sy’n gwasanaethu traean o boblogaeth Cymru i gyd, rydym yn derbyn nifer sylweddol o ymholiadau a chwynion, ac yn anffodus, gall gymryd mwy o amser i ni ymateb nac yr hoffem ac yn hirach nac y byddai pobl yn disgwyl i ni ymateb, weithiau. Gall hyn ddigwydd am nifer o resymau, fel cymhlethdod y gwyn neu argaeledd staff i gynnal ymchwiliad, ond rydym yn gwybod bod hwn yn faes lle mae angen i ni wella ac rydym yn gweithio'n galed i wneud hynny.
Mae cryn dipyn o waith wedi cael ei wneud i wella ein gwasanaethau delio â chwynion, yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol yn ymwneud â rheoli cwynion mewn modd digonol.
Mae delio â chwynion yn gyfrwng ardderchog i ddatblygu diwylliant agored, tryloyw ac sy’n dysgu y byddem yn disgwyl ei weld yn cael ei ymgorffori ar draws y sefydliad, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i wneud hynny. Mae profiad cleifion (a'u teuluoedd) o ofal iechyd yn rhoi dealltwriaeth bwysig i ni er mwyn ein helpu i gynllunio a gwella gwasanaethau.