Neidio i'r prif gynnwy

Arweinyddiaeth a diwylliant

Bydd meddu ar yr arweinyddiaeth a'r diwylliant cywir yn y sefydliad trwyddo draw yn hollbwysig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn llwyddiannus ar gyfer pobl Gogledd Cymru ac i recriwtio a chadw staff.

Mae Fframwaith Datblygu Arweinyddiaeth newydd yn cael ei roi ar waith i'n helpu i ddatblygu a denu arweinwyr yn y Bwrdd Iechyd. Cynhaliwyd gweithdai a sesiynau ym mis Chwefror, yn cynnwys dysgu gan arbenigwyr Michael West a Henry Engelhart wrth i ni ganolbwyntio ar arweinyddiaeth a newid diwylliant. Ochr yn ochr â hyn, mae Rhaglen Datblygu'r Bwrdd a rhaglen gynefino newydd ar gyfer y Bwrdd i gefnogi aelodau newydd yn cael eu rhoi ar waith.

Mae'r cynnydd positif sydd eisoes wedi cael ei wneud o ran arweinyddiaeth a diwylliant wedi cael ei adlewyrchu yn yr ail adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd gan Archwilio Cymru.