Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau Blaenorol am y Mesurau Arbennig

Chwefror 2024

Cynnydd y Bwrdd Iechyd


Chwefror 2023

 Bwrdd Iechyd yn cael ei roi mewn mesurau arbennig


November 2020

Y Bwrdd Iechyd yn dod allan o Fesurau Arbennig

Special Measures - WG Oral Statement on BCU transformation support

Special Measures - Betsi Cadwaladr University Health Board Framework


September 2020

Special Measures Board Update_September 2020


January 2020

Special Measures Self Review v2.0 January 2020


Mehefin 2019

Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig BIPBC – Adroddiad Trosolwg, Hydref 2018 - Mawrth 2019

Datganiad gan Vaughan Gething, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, June 2019


Chwefror 2019

Mae darpariaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau wedi'i ddad-ddwysáu fel pryder Mesurau Arbennig. Mae'r datganiad llawn ar gael yma. Mae pawb sy'n rhan o ofal Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau yng Ngogledd Cymru wedi gweithio'n galed iawn i wneud y gwelliannau angenrheidiol ac mae hyn yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n fawr. Er bod dal mwy i'w wneud, hoffem gymryd y cyfle hwn i longyfarch pawb a oedd yn rhan o hyn am eu gwaith i gyrraedd y man hwn.


Tachwedd 2018

BCUHB Special Measures: MA-P-VG-3663-18 - Doc 1 Oral Statement Mesurau Arbennig BIPBC: MA-P-VG-3663-18 - Dog 1 Datganiad Llafar

BCUHB Special Measures: May-Sept 18 Report v2.0 Mesurau Arbennig BIPBC: Mai-Medi 18 Adroddiad v2.0


Gorffennaf 2018 

Fframwaith Newydd Mesurau Arbennig

Special Measures Improvement Framework End Phase 2 Report v3.0 website.pdf Fframwaith Gwelliannau Mesurau Arbennig Adroddiad Diwedd Cyfnod 2 v3.0 gwefan.pdf


Chwefror 2018

Adroddiad Cam 3

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad diwedd cam 3 y mesurau arbennig, a’i gymeradwyo i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y trydydd cam, sef cam olaf y fframwaith gwella mesurau arbennig.

BCU Special Measures End of Phase 3 Report Appendix 1 v1.0 Final Approved Mesurau Arbennig PBC Adroddiad Diwedd Cyfnod 3 Atodiad 1 v1.0 Terfynol wedi'i Gymeradwyo

BCU Special Measures Improvement Framework End of Phase 3 Report v2.0 Final Approved subsequent submission 7.2.18 Fframwaith Gwelliannau Mesurau Arbennig PBC Adroddiad Diwedd Cyfnod 3 v2.0 Terfynol wedi'i Gymeradwyo cyflwyniad dilynol 7.2.18

Ar 1 Chwefror, fe ddarparodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig yn diweddaru Aelodau ar y canlyniadau o'r adolygiad statws dwysâd sefydliadau iechyd rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Rhagfyr 2017. Fe gadarnhaodd hefyd y camau gweithredu ychwanegol sy'n cael eu rhoi yn eu lle i gefnogi'r Bwrdd Iechyd (BIPBC) dan y trefniadau mesurau arbennig.

Datganiad Ysgrifenedig - Diweddariad ar adolygu statws uwchgyfeirio sefydliadau iechyd a chymorth ychwanegol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr


Tachwedd 2016

Adroddiad Cam 2 

Ar 17.11.16, derbyniodd a chymeradwyodd y Bwrdd Adroddiad Diwedd Cam 2 Mesurau Arbennig i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn ystod yr ail allan o dri cham Mesurau Arbennig.  Special Measures Improvement Framework End Phase 2 Report v3.0 website.pdf Cliciwch ar y ddolen hon i gael mynediad at adroddiad Cam 2  

Mai 2016

Adroddiad Cam 1

Ar 19 Mai 2016, derbyniodd y Bwrdd adroddiad ar y cynnydd a wnaed yn ystod Cam 1.  Ymhlith y prif feysydd cynnydd mae:


Arweinyddiaeth a Llywodraethu

· Gwnaed nifer o benodiadau allweddol i'r Bwrdd yn cynnwys Prif Weithredwr parhaol, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Cyfarwyddwr Gweithredol Meddygol, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl a thri Aelod Annibynnol.

· Mae Rhaglen Datblygu Bwrdd ar y gweill; mae hyn wedi cynnwys hunan asesiadau o effeithiolrwydd y Bwrdd.

· Mae strwythur pwyllgorau diwygiedig, safonau busnes newydd y Bwrdd, Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd a Strategaeth Rheoli Risg wedi cael eu cymeradwyo a'u rhoi ar waith.

· Mae'r Bwrdd Iechyd wedi rhoi strwythur rheoli newydd ar waith wedi'i seilio ar dri Thîm Ardal daearyddol, i wella effeithiolrwydd trefniadau arwain ar gyfer Gofal Cychwynnol a Gwasanaethau Cymuned.

· Cyflwynwyd system newydd o drosglwyddo gwybodaeth yn ddiogel ar wardiau a theithiau diogelwch gan uwch arweinwyr.


Cynllunio strategol a gwasanaeth

· Mae prif ddeilliannau'r Cynllun Gweithredol i gael eu cyflwyno i'r Bwrdd ym mis Mai 2016.

· Mae trefniadau rheoli perfformiad wedi cael eu hatgyfnerthu gan gyfarfodydd atebolrwydd rheolaidd ac adolygiadau perfformiad ar gyfer pob un o'r ardaloedd gweithredol ac uwch adrannau.

· Mae'r ôl groniad hanesyddol o bryderon a ddynodwyd yn flaenorol wedi cael ei glirio (ac eithrio 4 pryder sy'n destun ymchwiliad parhaus yn ymwneud ag asiantaethau eraill)

Ymgysylltu

· Cymeradwywyd Strategaeth Ymgysylltu

· Mae'r Bwrdd wedi sefydlu Grŵp Strategol Gweithlu ac Ymgysylltu yn cynnwys Partneriaid Undebau Llafur, Aelodau Annibynnol a Swyddogion i wella lefelau ymgysylltu'r gweithlu.

· Dyfarnwyd Tystysgrif o Arfer Da i'r Bwrdd Iechyd gan y Consultation Institute am ei ymgynghoriad i Wasanaethau Mamolaeth.

Iechyd meddwl

· Mae Strategaeth Iechyd Meddwl yn cael ei datblygu

Gwasanaethau Mamolaeth

· Cymeradwywyd yr achos busnes amlinellol ar gyfer y Ganolfan Is-Ranbarthol Gofal Dwys i'r Newydd-anedig (SuRNICC) gan Lywodraeth Cymru i gael ei symud i'r cam achos busnes llawn.

Gofal Cychwynnol

· Ym mis Ebrill 2016, rhoddodd y Bwrdd Iechyd fodel newydd o ofal cychwynnol ar waith i ddarparu gwasanaethau i gymuned Prestatyn oherwydd bod y meddygon teulu lleol wedi rhoi rhybudd eu bod yn terfynu eu contract.

Gellir gweld adroddiad llawn y Bwrdd yn:

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/861/16_91%20Special%20Measures%20Improvement%20Framework%20End%20Phase%201%20Report%20v1.0.pdf


Ionawr 2016

Fframwaith Gwella 

Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Fframwaith Gwella Mesurau Arbennig i'r Bwrdd Iechyd ar 29 Ionawr 2016, gan osod y cerrig milltir gwella disgwyliedig dros y ddwy flynedd nesaf, wedi'u rhannu yn dri cham:

Cam 1 – Tachwedd 2015 – Ebrill 2016

Cam 2 – Mai 2016 – Tachwedd 2016; a

Cam 3 – Rhagfyr 2016 – Tachwedd 2017

Y disgwyl yw y bydd bob cam yn canolbwyntio ar welliannau yn y meysydd canlynol:

· Arweinyddiaeth

· Llywodraethu

· Cynllunio strategol a gwasanaeth

· Ymgysylltu

· Iechyd meddwl

· Gwasanaethau Mamolaeth

· Gofal Cychwynnol


Hydref 2015

Adolygu'r Sefyllfa 

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru adolygiad lefel uchel o gynnydd ar ôl y pedwar mis cyntaf o Fesurau Arbennig.  O ganlyniad i'w hargymhellion, ar 22 Hydref 2015, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd y dylai'r Bwrdd Iechyd barhau mewn mesurau arbennig am y ddwy flynedd nesaf, gyda chynnydd a cherrig milltir yn cael eu hadolygu bob chwe mis. 


Gorffennaf i Medi 2015

Cynlluniau 100 Niwrnod 

Mewn ymateb, datblygodd y Bwrdd Iechyd gyfres o gynlluniau 100 niwrnod i ddechrau oedd yn gosod y camau i ddarparu gwelliannau cyflym yn y meysydd pryder penodol a amlygwyd gan y Gweinidog.

Mae'r cynnydd a wnaed yn ystod y cam hwn ar gael mewn cyfres o newyddlenni:

24 Gorffennaf 2015

31 Gorffennaf 2015

7 Awst 2015

28 Awst 2015

Adroddwyd ar y sefyllfa yn dilyn y 100 Niwrnod fel a ganlyn:

Diweddariad 100 Niwrnod - Medi 2015


Mehefin 2015

Ar 8 Mehefin 2015, yn dilyn cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod wedi derbyn yr argymhelliad y dylid gosod y Bwrdd Iechyd mewn mesurau arbennig dan fframwaith uwch gyfeirio GIG Cymru.

Roedd hyn yn adlewyrchu methiant y Bwrdd Iechyd i wneud digon o welliannau o ran y pryderon a fynegwyd ers amser am lywodraethu, arweinyddiaeth a materion eraill oedd eisoes wedi arwain at godi statws uwch gyfeirio'r Bwrdd Iechyd i Ymyriad wedi'i Dargedu.

Gellir cael mwy o wybodaeth am broses uwch gyfeirio Llywodraeth Cymru yn http://gov.wales/topics/health/publications/health/guidance/escalation/?lang=en

Cynlluniwyd y mesurau i roi sefydlogrwydd, cyngor ac arweiniad i'r Bwrdd Iechyd wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

Gosododd y Gweinidog feysydd allweddol ar gyfer gwelliant pendant fel a ganlyn:

· Llywodraethu, arweinyddiaeth a throsolwg - rhaid i'r Bwrdd Iechyd weithredu camau llywodraethu a sicrwydd y tynnwyd sylw atynt mewn cyfres o adroddiadau, yn cynnwys gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac mewn adolygiad a gynhaliwyd gan Ann Lloyd.

· Gwasanaethau Iechyd Meddwl - rhaid i'r Bwrdd Iechyd weithredu'r cynllun iechyd meddwl ar gyfer Gogledd Cymru, yn cynnwys camau'n codi o adolygiadau blaenorol, pryderon llywodraethu ac yn arwyddocaol, yr adroddiad diweddar ar ddigwyddiadau yn Nhawel Fan.

· Gwasanaethau Mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd - rhaid i'r Bwrdd Iechyd ddatrys y cwestiwn am ddyfodol gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol a materion cynaladwyedd, a dwyn cynlluniau ymlaen ar gyfer y Ganolfan Is Ranbarthol Gofal Dwys i'r Newydd-anedig (SuRNICC).

· Gwasanaethau meddygon teulu a gofal cychwynnol, yn cynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau - rhaid i'r Bwrdd Iechyd ymateb i'r adolygiad y tu allan i oriau a materion cysylltiedig a gomisiynwyd ganddo.

· Ail gysylltu â'r cyhoedd ac adennill eu hymddiriedaeth - rhaid i'r Bwrdd gynnal ymarfer gwrando a'i oruchwylio i sefydlu agwedd wahanol at ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae arno angen gwneud hynny'n gyflym a gwrando ar yr hyn a ddywed y boblogaeth leol wrtho, yn hytrach na rhoi gwybod i'r cyhoedd am farn y Bwrdd.

Yn dilyn penderfyniad y Gweinidog, gwaharddodd y Bwrdd Iechyd ei Brif Weithredwr a hynny ar unwaith.  Roedd hon yn weithred niwtral er mwyn gallu sefydlu swyddog atebol dros dro newydd.   Gofynnodd y Gweinidog i Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru a Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth y GIG Felindre i gymryd y cyfrifoldebau hyn.

Mae'r Bwrdd yn cael ei helpu gan gyfres o unigolion allweddol sy'n rhoi cyngor arbenigol fel rhan ofynnol o fesurau arbennig. Mae'r rhain yn cynnwys:

· Dr Chris Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, sy'n rhoi cyngor a chefnogaeth ar wasanaethau meddygon teulu a gofal cychwynnol yn cynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau;

· Peter Meredith-Smith, cadeirydd dros dro Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned a chyfarwyddwr cyswllt y Coleg Brenhinol Nyrsio yng Nghymru sy'n rhoi arbenigedd mewn nyrsio iechyd meddwl; Bydd y tîm 1,000 o Fywydau iechyd meddwl hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Mr Meredith-Smith a'r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod gwelliannau cynaladwy mewn diwylliant gofal a gwasanaethau;

· Ann Lloyd, cyn Brif Weithredwr GIG Cymru, fydd yn rhoi trosolwg o ran llywodraethu ac atebolrwydd.

Mae trosolwg gweinidogol o'r trefniadau mesurau arbennig yn cael ei arwain gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Er bod y mesurau arbennig yn berthnasol i'r Bwrdd Iechyd, mae gwasanaethau a gweithgareddau bob dydd yn parhau fel arfer.