Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam yn helpu cleifion i fod yn heini cyn llawfeddygaeth

Mae cynllun peilot yn helpu pobl i fod yn heini cyn llawfeddygaeth fawr er mwyn lleihau'r risg o gymhlethdodau ar ôl eu llawdriniaethau wedi cael ei gyflwyno yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae tîm o weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn gweithio gyda Chanolfan Hamdden Plas Madoc yn Wrecsam i gynnal tair sesiwn cyn adsefydlu yr wythnos i gleifion sy'n aros am lawfeddygaeth.

Mae'r sesiynau'n cynnwys sesiwn ymarfer sy'n cael ei goruchwylio, addysg ar ddiet, sesiynau lles a hyfforddiant cyhyrau resbiradol. Maent ar hyn o bryd yn cael eu cynnig i gleifion sy'n aros am lawfeddygaeth ar y coluddyn a rhan uchaf y llwybr traul.

Dywedodd Dr Neil Agnew, Anaesthetydd Ymgynghorol: “Mae cael llawdriniaeth fawr yn gofyn llawer gan gleifion yn gorfforol, yn faethol ac yn seicolegol.

"Gwyddys bod gan gleifion sydd â ffitrwydd corfforol gwael, yn ogystal â chyflwr maethol gwael cyn llawfeddygaeth fwy o berygl o gymhlethdodau ar ôl llawfeddygaeth fawr.  Mae cleifion sy'n cael llawfeddygaeth fawr ar gyfer canser yn wynebu galwadau ychwanegol gan fod eu triniaeth lawfeddygol yn aml yn cael ei chyfuno â chemotherapi a radiotherapi.

"Rydym yn gobeithio drwy helpu cleifion i fod mor heini â phosibl cyn llawfeddygaeth, y byddant yn llai tebygol o ddioddef cymhlethdodau ac yn gwella'n gynt."

Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r cyntaf yng Nghymru i gynnig rhaglen i gleifion sy'n aros am driniaeth lawfeddygol gyffredinol fawr.

Claf sydd wedi elwa o'r cynllun yw Rosemarie Jones, sy'n  76 oed, sydd eisoes wedi cael dwy lawdriniaeth yn dilyn diagnosis o ganser y coluddyn, a chafodd gynnig y cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen pedair wythnos ar drothwy ei thrydedd llawdriniaeth.

Dywedodd: "Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn y cynllun peilot hwn, mae wedi helpu fy hyder ac mae wedi gwella fy lefelau ffitrwydd yn fawr.

"Rydych yn dechrau gydag ymarferion bach ac yn adeiladu arnynt fesul wythnos. Nid yn unig mae'n gwella eich iechyd corfforol ond hefyd eich iechyd meddwl, ac mae wedi bod yn ffordd dda o gyfarfod pobl newydd."

Mae'r cynllun yn cynnwys dull amlddisgyblaethol sy'n cynnwys mewnbwn pwysig gan Ddietegwyr, Ffisiotherapyddion a Therapyddion Galwedigaethol.

Dywedodd Paige Christopher, Dietegydd: "Rwy'n gweld pob claf ar gyfer asesiad cychwynnol ac rydym yn edrych sut mae eu diet cyfredol a sut gellir ei wella i wneud y mwyaf o'u hiechyd.

"Mae'n bwysig iawn cael diet iach cyn llawfeddygaeth, gan sicrhau maeth digonol i helpu i wella canlyniadau llawfeddygol megis lleihau'r amser mae'n ei gymryd i'r briw wella a'r risg o heintiau.

"Rwyf wedi cael ymateb cadarnhaol iawn i'r rhaglen gan gleifion gyda nifer ohonynt yn addasu eu diet er mwyn gwella faint o faeth maent yn ei gael. Maent hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau grŵp ble maent yn dysgu mwy am wahanol grwpiau bwyd, yr effaith ar y corff a phwysigrwydd ffordd o fyw iach.

Mae'r ffisiotherapydd, Jo Lloyd yn creu rhaglenni wedi'u teilwra i bob claf ac mae wedi gweld canlyniadau gwych hyd yma.

"Fel rhan o'r rhaglen, mae gennym ddarn o offer gwych a elwir yn POWERbreathe, sy'n helpu i wella cryfder cyhyrau resbiradol sy'n bwysig iawn yn ystod llawfeddygaeth. Gall gwella cryfder eich cyhyrau hefyd helpu drwy leihau'r risg o heintiau ar ôl llawfeddygaeth, megis haint ar y frest. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gronfa Seren Wib am roi arian i ganiatáu i ni brynu'r offer hwn.

"Mae'n wobrwyol iawn i mi weld y newid mewn cleifion drwy'r rhaglen a phan maent yn gadael yn fwy heini. Rwyf wedi gweld cleifion yn dod atom yn defnyddio eu ffyn cerdded ac yn gadael yn defnyddio'r grisiau - mae'n dangos canlyniadau gwirioneddol,” dywedodd

Mae cefnogaeth seicolegol ac emosiynol yn cael ei gynnig gan Clare Williams, Therapydd Galwedigaethol a Chydlynydd y Rhaglen.

Dywedodd: "Mae fy rôl yn cynnwys gofalu am iechyd a lles cyffredinol ein cleifion sy'n dod drwy'r cynllun.

"Rwy'n defnyddio dull holistaidd i ddarganfod beth mae ein cleifion ei angen a sut maent yn teimlo. Gall canser gael effaith enfawr ar fywyd rhywun felly mae'n bwysig bod ganddynt y gefnogaeth, gwybodaeth a'r addysg gywir wrth iddynt gael eu triniaeth."

Mae'r rhaglen hefyd wedi cael cefnogaeth Michael Thornton, Llawfeddyg Colorectol Ysbyty Maelor Wrecsam, sydd wedi gweld ei gleifion ei hun yn elwa o'r cynllun.

Dywedodd: "Fel llawfeddyg canser y coluddyn, rwy'n ymwybodol bod risgiau ynghlwm â'r driniaeth lawfeddygol ar gyfer y cyflwr hwn, yn enwedig ymysg cleifion hŷn a'r rhai sydd â chyflyrau meddygol cymhleth.

"Bydd y rhaglen cyn adsefydlu yn helpu cleifion fod yn fwy heini a chryfach cyn eu llawfeddygaeth, hyd yn oed y rhai sydd eisoes yn gweld ei hunain yn heini!

"Rwy'n dweud wrth gleifion 'po fwyaf heini ydych yn mynd am y llawdriniaeth, po fwyaf heini y byddwch yn dod allan.’

"Mae ein cleifion sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun wedi mwynhau'r rhaglen oherwydd ei dull amlochrog gan gyfuno ymddygiad iachach, ymarfer corff, maeth ac ymyrraeth seicolegol.

"Mae hyn yn arwain at lawfeddygaeth mwy diogel, gwell adferiad ac iechyd hir dymor, a hyd yn oed gwell cyfraddau goroesi canser. Mae'n rhoi grym i gleifion drwy ganiatau iddynt gyfrannu at eu hiechyd a'u hadferiad."

Ychwanegodd Samantha Davies, Arweinydd Gwella Gwasanaeth ar gyfer y prosiect. "Mae wedi bod yn fraint arwain ar y rhaglen hon. Mae gweld yr holl adborth cadarnhaol gan gleifion yn adlewyrchiad gwych ar y tîm. Mae gweld cleifion wedi'u grymuso a'u hysgogi i fod yn heini ac iach cyn eu llawfeddygaeth yn wych ac yn wobrwyol iawn i'r tîm."

Disgwylir bydd y rhaglen yn cael ei chynnal hyd nes mis Mawrth 2020.