Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam yn defnyddio ffyrdd arloesol i helpu cleifion fod yn ffit ar gyfer llawfeddygaeth yn ystod COVID-19

Er y pandemig cyfredol, mae staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi dod o hyd i ffyrdd newydd i barhau i helpu cleifion fod yn ffit ar gyfer llawfeddygaeth er mwyn lleihau'r risg o gael cymhlethdodau yn dilyn eu llawdriniaeth. 

Tuag at ddiwedd y llynedd dechreuodd tîm o weithwyr proffesiynol gofal iechyd raglen o sesiynau Cyn Adsefydlu yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc yn Wrecsam ar gyfer cleifion sy'n aros am lawfeddygaeth. 

Roedd y sesiynau'n cynnwys sesiwn ymarfer corff dan oruchwyliaeth, addysg ar ddiet, sesiynau lles a hyfforddiant cyhyrau resbiradol.

Oherwydd y pandemig cyfredol roedd y tîm yn gorfod addasu eu rhaglen yn gyflym i barhau i gynnig y gwasanaeth i gleifion sy'n aros am lawfeddygaeth y coluddyn, yr arennau a gastroberfeddol uwch (GI).

Dywedodd Dr Neil Agnew, Anesthetydd Ymgynghorol: "Bu i ni ddatblygu rhaglen Cyn Adsefydlu llwyddiannus iawn yn ystod y chwe mis cyn COVID-19, cawsom ganlyniadau da iawn a oedd yn dangos cyfraddau cymhlethdodau is, arhosiad llai yn yr ysbyty a chanlyniadau gwell yn gyffredinol.  Roedd y cleifion wir yn mwynhau'r sesiynau hefyd.

"Yn anffodus oherwydd y pandemig nid oeddem yn gallu parhau gyda'r rhaglenni dan oruchwyliaeth ar gyfer ymarfer corff dwyster uchel, a'r sesiynau seicoleg a gyda'r dietegydd mewn grwpiau.

"Fodd bynnag, rydym wedi sylweddoli ei fod yn bwysig iawn ein bod yn parhau gyda'r rhaglen hon mewn ffordd wahanol.  Rydym yn chwilio am ffyrdd arloesol o ddarparu'r sesiynau Cyn Adsefydlu ac yn edrych ar dechnoleg fideo a darparu gwybodaeth i gleifion fynd adref gyda nhw - mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn parhau i'n cleifion."

Ysbyty Maelor Wrecsam oedd y cyntaf yng Nghymru i gynnig rhaglen Cyn Adsefydlu i gleifion sy'n aros am driniaeth lawfeddygol gyffredinol mawr.

Mae'r cynllun yn cynnwys dull amlddisgyblaethol cyfan sy'n cynnwys mewnbwn pwysig gan Ddietegwyr, Ffisiotherapyddion a Nyrsys Cyn-llawdriniaeth.

Mae'r Ffisiotherapydd, Jo Lloyd a'r Ffisiolegydd Ymarfer Corff, Steve O'Meara yn awr wedi'u lleoli yn y rhan Asesiad Cyn-llawdriniaeth yn yr ysbyty, ac yn gweithio ochr yn ochr â'r Ymarferydd Nyrsio Cyn-llawdriniaeth, Lorraine Hughes.  

Dywedodd Jo:  "Rydym wedi addasu ein gwasanaeth oherwydd y pandemig, rydym wedi gorfod bod yn arloesol iawn oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol.  

"Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu parhau i ddarparu'r rhaglen hon i'n cleifion ac maent yn parhau i ddefnyddio ein offer arbennig, y POWERbreathe, sy'n helpu i wella cryfder y cyhyrau yr ydych yn eu defnyddio i anadlu, sy'n bwysig iawn yn ystod llawfeddygaeth.

"Gall gwella cryfder eich cyhyrau hefyd helpu i leihau'r risg o ddal heintiau ar ôl llawfeddygaeth, fel haint ar y frest.

"Mae'r cleifion wedi bod yn defnyddio'r POWERbreathe gartref hyd at eu llawfeddygaeth, rydym wedi bod mewn cyswllt agos â nhw drwy gydol y cyfnod hwn i wneud yn siŵr eu bod yn teimlo fel petaent yn cael eu cefnogi ac os oes ganddynt unrhyw bryderon neu broblemau. 

"Os oes ganddynt, gallwn roi cymorth iddynt dros y ffôn ac rydym hefyd yn edrych ar ddylunio ap a all roi hyd yn oed fwy o gefnogaeth iddynt."

Gan fod y gampfa ar gau ar hyn o bryd, mae Steve wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd i annog cleifion i wneud ymarfer corff fel rhan o'r rhaglen. 

Dywedodd: "Oherwydd y pandemig rydym wedi gorfod addasu ein rhaglen ymarfer corff, yn lle bod y cleifion yn cael eu goruchwylio yn y campfeydd maent bellach yn gwneud eu hymarferion gartref tair gwaith yr wythnos. 

"Rydym yn eu gweld pan fyddent yn dod i'r sesiynau Cyn Adsefydlu ac yn dangos iddynt sut i wneud yr ymarferion ac yn rhoi cefnogaeth iddynt barhau â'r ymarferion gartref. 

"Yn ystod y cyfnod o waharddiad symudiad rydym wedi cael adborth gan gleifion yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud ymarfer corff gyda'u teuluoedd gartref, a gyda'r campfeydd yn awr ar gau mae wedi bod yn braf clywed eu bod wedi bod yn gwneud hyn gyda'i gilydd, yr wyf yn siŵr sydd wedi rhoi cefnogaeth ychwanegol i'r cleifion."

Ychwanegodd Lorraine: "Mae pob claf sydd wedi cael cynnig lle ar y rhaglen wedi bachu ar y cyfle, rydym wedi cael llawer o adborth positif da gan ein cleifion. 

"Mae'r cleifion yn ddiolchgar iawn bod y rhaglen hon ar gael iddynt a'u bod yn gwneud rhywbeth a all leihau eu risg pan fyddent yn dod i mewn am eu llawfeddygaeth."