Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam y cyntaf yng Nghymru i gynnig llawfeddygaeth clun newydd a rhyddhau'r un diwrnod

Ysbyty Maelor Wrecsam y cyntaf yng Nghymru i gynnig llawfeddygaeth clun newydd a rhyddhau

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi dod yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i wneud llawfeddygaeth clun newydd a rhyddhau ar yr un diwrnod.

Mae'r arhosiad cyfartalog yn yr ysbyty ar ôl cael clun newydd tua thri diwrnod, ond erbyn hyn mae rhai cleifion yn gallu mynd adref yr un diwrnod oherwydd bod llawfeddygon yn defnyddio dull newydd o ddarparu gofal ar ôl llawdriniaeth.

Yn ystod mis Mai eleni, cynigiodd y Meddyg Ymgynghorol, Ibrahim Malek, sy'n arbenigo mewn cymalau newydd yn y coesau, y driniaeth hon i Dawn Jones, sy'n 53 mlwydd oed.

Roedd Dawn, o Riwabon, eisoes wedi cael llawfeddygaeth ar ei chlun dde ym mis Rhagfyr 2018 ond fe ddychwelodd i Ysbyty Maelor Wrecsam bum mis yn ddiweddarach am lawdriniaeth ar ei chlun chwith.

Dywedodd: "Roedd fy llawdriniaeth gyntaf cyn y Nadolig yn glun dde newydd ac arhosais yn yr ysbyty am noson.

“Pan ddes i mewn ar gyfer fy ail lawdriniaeth cefais fy synnu o glywed y byddwn yn gallu mynd adref ar yr un diwrnod.

"Fe aeth y llawfeddygaeth yn dda iawn ac fe es ar y ward ble cefais ofal gan y staff, a oedd yn wych - nid oedd dim yn ormod o drafferth iddynt.

“Roedd Mr Malek wedi gwneud i mi deimlo'n gyfforddus ac roeddwn wrth fy modd pan ddywedodd y gallwn ddychwelyd adref yr un diwrnod ac y byddwn yn derbyn gofal dilynol gan y ffisiotherapydd nyrsio brofiadol cymuned  yn fy nghartref fy hun.”

Mae llawfeddygon wedi dechrau cynnig llawdriniaeth dydd i gleifion addas sy'n cael cluniau newydd sy'n ffit ac sydd â chymorth da gan deulu a ffrindiau gartref.

Ysbyty Maelor Wrecsam y cyntaf yng Nghymru i gynnig llawfeddygaeth clun newydd a rhyddhau

Mae cleifion yn cael cynnig cyfuniad newydd sbon o anaesthesia a rhywbeth i leddfu poen yn ystod y llawdriniaeth ac ar ôl y llawdriniaeth i hwyluso eu hadferiad yn ddiogel. Unwaith maent wedi'u rhyddhau o'r ysbyty bydd llinell gymorth 24/7 ar gael rhag ofn y bydd unrhyw broblemau.

Dywedodd Mr Malek: "Mae'r ffordd newydd hon o wneud llawdriniaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n cleifion. Mae hwn yn estyniad ac yn esblygiad ar ein cynllun Adferiad Gwell ar ôl Llawdriniaeth, llwyddiannus iawn, sy'n ddull arloesol at y ffordd y gellir darparu gofal i gleifion sy'n cael llawdriniaethau penodol. Dyma enghraifft ragorol o aelodau'r tîm amlddisgyblaethol yn cydweithio i gael y canlyniad gorau i'n cleifion.

"Mae hyn yn unol â gweledigaeth ein Bwrdd Iechyd i ddod a gofal yn agosach at y cartref.

"Os yw'r claf yn addas i gael ei rhyddhau, nid oes rheswm iddynt aros yn yr ysbyty gan ein bod yn gallu darparu adsefydliad iddynt yn y cartref.

"Ni ddylai neb fod yn yr ysbyty yn hirach na sydd angen iddynt fod. Gall arhosiad hir diangen yn yr ysbyty arwain at ddiffyg cwsg a heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Mae cleifion yn gwella'n well yn eu cartref ei hunain ac yn agosach at eu hanwyliaid. Maent hefyd yn gallu dychwelyd at eu gweithgareddau arferol yn gynt.

"Gall lleihau hyd arhosiad ein cleifion yn yr ysbyty hefyd helpu gyda'n rhestrau aros a rhyddhau gwelyau ysbyty."

Mae Dawn wedi disgrifio sut mae'r llawdriniaeth 'wedi newid ei bywyd' ac mae wedi canmol ei llawfeddyg a'i dîm am eu gofal.

"Y flwyddyn ddiwethaf, nid oeddwn yn gwybod beth oedd am ddigwydd i mi, roeddwn yn cael trafferth cerdded ac mewn cymaint o boen bob diwrnod.

"Rŵan rwy'n teimlo y gallaf redeg marathon ac rwy'n teimlo'n 25 eto!

"Dim ond dau ddiwrnod ar ôl fy llawfeddygaeth, roeddwn yn gallu codi a cherdded o gwmpas yn iawn eto heb unrhyw beth i fy helpu. Pan ddaeth fy ffisiotherapydd i fy ngweld, nid oedd yn gallu credu fy mod mor actif ac ar ganol paentio fy nhŷ!

"Mae Mr Malek a'i dîm yn anhygoel, rydym yn lwcus iawn ohonynt yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ni allaf fyth ddiolch digon iddynt."