Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Gwynedd yw'r cyntaf yn y DU i gynnig cwrs hyfforddiant gwerthfawr ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

Ysbyty Gwynedd yw

Gweithwyr iechyd proffesiynol yn Ysbyty Gwynedd yw'r cyntaf yn y DU i gymryd rhan mewn cwrs newydd sydd â'r bwriad o wella eu sgiliau dadebru.

Cafodd cwrs Focused Echo in Emergency Life Support Plus (FEEL+) ei gynnal am y tro cyntaf yn Ysbyty Gwynedd yn ystod mis Mai.

Cynigiwyd cwrs hyfforddiant ymarferol deuddydd estynedig newydd i weithwyr iechyd proffesiynol gan ddefnyddio Ecocardioleg er mwyn cynnig gwybodaeth a phrofiad pellach pan fyddant yn rheoli claf sy'n dangos arwyddion ataliad y galon.

Sgan yw ecocardiogram sy'n cael ei ddefnyddio i edrych ar y galon a'r pibellau gwaed cyfagos. Gall helpu i wneud diagnosis ac i fonitro cyflyrau penodol sy'n effeithio ar y galon trwy wirio strwythur y galon a'r pibellau gwaed cyfagos, gan ddadansoddi sut mae gwaed yn llifo trwyddynt ac asesu siambrau pwmpio'r galon.

Gwnaeth Liana Shirley, Uwch Ffisiolegydd Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), sy'n cynnal y cwrs gyda'i gŵr

Chris Shirley, sy'n Arweinydd Datblygiad Proffesiynol dadebru ar draws BIPBC, ddod â chwrs FEEL i Ogledd Cymru yn 2017 ac maent bellach wedi'i droi'n gwrs deuddydd trwy ychwanegu ail ddiwrnod o brofiad sganio trwy fentora.

Ysbyty Gwynedd yw

Dywedodd Liana: “Rydym yn teimlo'n hynod falch o fod wedi llwyddo i ddod â'r cwrs hwn i Ogledd Cymru cyn unman arall yn y GIG.

“Mae'r cwrs hwn yn cynnig yr hyfforddiant ymarferol sydd ei angen gan feddygon ac uwch weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i wella eu gwybodaeth a'u profiad er mwyn cynnig y gofal gorau i'r claf.

“Mae llawer o resymau pam mae'r galon yn stopio felly mae defnyddio Ecocardioleg mewn senario dadebru'n gwella canlyniadau i gleifion gan ei fod yn gallu canfod abnormaleddau y gellir mynd i'r afael â nhw.

“Rydym wedi cael adborth gwych gan y rheiny a ddilynodd y cwrs - gwnaeth un o'r ymgeiswyr hedfan o Norwy i wneud hynny ac ers hynny, mae wedi gofyn i naw meddyg arall ar Dîm Achub Mynydd yn Norwy ddod atom i gwblhau ein cwrs!"

Mae cwrs FEEL, a gafodd ei sefydlu gan y Cardiolegydd Ymgynghorol adnabyddus, yr Athro Susanna Price o Brompton Llundain, a'r

Dwysegydd Ymgynghorol, Dr Shahanna Uddin yng Ngholeg y Brenin Llundain; wedi'i gefnogi gan Gyngor Dadebru'r DU, a chaiff ei gynnig ddwywaith y flwyddyn yn Ysbyty Gwynedd ac yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Bydd y cwrs estynedig sy’n cynnwys ail ddiwrnod o fentora'n galluogi ymgeiswyr i gael cychwyn cadarn o ran datblygu portffolio parhaus o brofiad sganio; gan arwain at eu cymhwyster cyffredinol. 

Dywedodd Chris: “Mae'r sganiau cyntaf wedi bod yn dipyn o her i rai ymgeiswyr eu cael gan fod hyn yn gofyn am amser gydag arbenigwyr clinigol o'r radd flaenaf.  Mae ein cwrs newydd yn gyfle iddynt ddechrau eu portffolio trwy gynnig y mentora yna wrth iddynt gynnal sganiau ar gleifion sy'n cydsynio, a modelau gwirfoddol eraill o dan oruchwyliaeth uniongyrchol arbenigwyr clinigol ym maes sganiau uwch sain."

“Pleser o'r mwyaf yw cael yr Athro Susanna Price a Dr Shahana Uddin a ddatblygodd gwrs FEEL yma yng Nghymru i'n helpu i droi'r cynllun peilot yma'n llwyddiant. Mae'r ffaith eu bod wedi dangos eu cymorth a'u cefnogaeth o ran datblygu FEEL+ yn anrhydedd mawr i ni fel gwasanaeth."

Dywedodd Sarah Bellis Hollway, Rheolwr Gwasanaethau Dadebru BIPBC: “Rydw i'n hynod falch o'r tîm sy'n cynnal y cwrs ac am yr adborth ardderchog parhaus a chyson y mae'r cwrs wedi'i gael.

“Mae Chris a Liana wedi gweithio'n galed i gyflwyno'r cwrs yn y Bwrdd Iechyd a ni yw'r unig ganolfan gyrsiau yng Nghymru i gynnig cwrs FEEL.

“Erbyn hyn, ni yw'r cyntaf yn y DU i gynnig ail ddiwrnod peilot o'r cwrs sy'n galluogi ymgeiswyr i gwblhau llawer o'u sganiau ymarfer gofynnol o dan oruchwyliaeth.

“Hoffwn ddiolch i'r holl gyfadran a ddaeth o bell ac agos i gefnogi dau ddiwrnod y cwrs yn ogystal â'r modelau gwirfoddol a staff cymorth Gwasanaethau Dadebru gan na fyddai modd cynnig y cwrs hebddynt."