Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Gwynedd wedi'i wobrwyo am ei ymrwymiad i ddiogelwch cleifion gan y Gofrestrfa Cymalau Cenedlaethol (National Joint Registry (NJR)

Mae Ysbyty Gwynedd wedi cael ei wobrwyo am ei ymrwymiad i ddiogelwch cleifion ar ôl cwblhau rhaglen genedlaethol o archwiliadau data lleol yn llwyddiannus.  

Mae’r Gofrestrfa Cymalau Cenedlaethol (The National Joint Registry) yn monitro perfformiad llawdriniaethau cymalau clun, pen-glin, ffêr, penelin ac ysgwydd newydd i wella canlyniadau clinigol er budd cleifion, clinigwyr a diwydiant.  

Mae’r gofrestrfa yn casglu data orthopedig o ansawdd uchel er mwyn darparu tystiolaeth i gefnogi diogelwch cleifion, safonau ansawdd gofal, ac effeithiolrwydd cost mewn llawfeddygaeth cymal newydd.  

Cyflwynwyd y cynllun tystysgrif ‘Darparwr Data Ansawdd NJR’ i gynnig glasbrint i ysbytai am gyrraedd safonau ansawdd uchel yn ymwneud â diogelwch cleifion a gwobrwyo’r rhai sydd wedi cwrdd â thargedau’r gofrestrfa yn y maes hwn.  

Er mwyn cyflawni’r wobr, mae angen i ysbytai fodloni chwe tharged uchelgeisiol yn ystod y cyfnod archwilio 2019/20. Un o’r targedau mae angen i ysbytai eu cwblhau yw cydymffurfiaeth gydag archwiliad cenedlaethol gorfodol NJR sydd wedi’i anelu at asesu cyflawnder data ac ansawdd o fewn y gofrestrfa.  

Meddai’r Llawfeddyg Trawma ac Orthopaedig Ymgynghorol, Mr Koldo Azurza: “Hoffwn gydnabod ein casglwr data, Huw Davies, sef ein cyswllt gyda’r NJR, am ei holl waith caled.  Ynghyd â’r Brif Nyrs Rachel a’i thîm nyrsio Arthoplasti, maen nhw wedi bod yn gyfryngol at gyflawni’r wobr hon.  Yr wyf yn ddyledus iawn iddynt ar ran ein cleifion am eu hymroddiad o dan amgylchiadau anodd iawn ar brydiau.  Eu gwobr nhw yw hon”.  

Mae Archwiliad Ansawdd Data yr NJR yn ymchwilio i nifer gywir o weithdrefnau amnewid cymal a gyflwynwyd i’r gofrestrfa o’i gymharu â’r nifer a wnaed a chofnodwyd yn y System Weinyddiaeth Cleifion ysbyty lleol.  Mae’r archwiliad yn sicrhau fod yr NJR yn casglu ac adrodd ar y data mwyaf cyflawn a chywir â phosibl ar draws bob ysbyty sy’n gwneud llawdriniaethau amnewid cymal, gan gynnwys Ysbyty Gwynedd.  

Meddai’r Llawfeddyg Trawma ac Orthopedig Ymgynghorol, Mr Muthu Ganapathi, sydd hefyd yn Arweinydd Arthoplasti yn Ysbyty Gwynedd:  “Mae cyfrannu data i’r NJR wastad wedi bod yn flaenoriaeth ar gyfer ein hysbyty.  

“Rydym yn falch iawn fod gwaith caled ac ymroddiad yr holl staff sy’n gysylltiedig â’r broses hon wedi cael ei gydnabod gyda’r wobr hon.  

“Hoffem hefyd ddiolch i Mr Glynne Andrew, ein cydweithiwr sydd bellach wedi ymddeol, am sefydlu’r broses yn Ysbyty Gwynedd sawl blwyddyn yn ôl.”

Meddai Cyfarwyddwr Meddygol y Gofrestrfa Cymalau Cenedlaethol, Mr Tim Wilton: “Llongyfarchiadau i gydweithwyr yn Ysbyty Gwynedd.  Mae’r Darparwr Data Ansawdd yn arddangos y safonau uchel sy’n cael eu bodloni tuag at sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r NJR ac yn aml mae’n adlewyrchiad o ymdrechion adrannol cryf i gyflawni statws o’r fath.  

“Mae data Cofrestrfa nawr yn darparu ffynhonnell bwysig o dystiolaeth ar gyfer rheoleiddwyr, megis y Comisiwn Ansawdd Gofal, i hysbysu eu dyfarniadau am wasanaethau, yn ogystal â bod yn yrrwr hanfodol i hysbysu gwell ansawdd gofal ar gyfer cleifion.”