Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelydd Iechyd Newydd i helpu teuluoedd yn Sir y Fflint

Ymwelydd Iechyd Newydd i helpu teuluoedd yn Sir y Fflint

Mae Ymwelydd Iechyd newydd a ariennir gan Awyr Las, sef Elusen y GIG yng Ngogledd Cymru, bellach yn cynnig cymorth i deuluoedd digartref yn Sir y Fflint.

Mae'r ymwelydd iechyd, Katie Moore, yn gweithio gyda theuluoedd sy'n byw yng Nghynllun Byw â Chymorth Erw Groes a reolir gan Gymdeithas Tai ClwydAlyn yn Nhreffynnon. Mae hi'n helpu defnyddwyr gwasanaeth i fagu hyder ac mae hefyd yn helpu teuluoedd i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd eraill yn yr ardal leol.

Mae Erw Groes yn ganolfan deuluol sy'n cynnig llety hunangynhwysol ar gyfer teuluoedd digartref yn Sir y Fflint. Gall teuluoedd aros yn Erw Groes am hyd at ddwy flynedd sy'n cynnig sefydlogrwydd ac amser iddynt ennill annibyniaeth a fydd yn eu helpu i symud ymlaen at gartref mwy parhaol.

Dywedodd Katie Moore, Ymwelydd Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, "Mae'n gyffrous i mi ddechrau ymgysylltu â'r teuluoedd yn Erw Groes ac i mi chwilio am gyfleoedd i'w helpu i fanteisio ar wasanaethau iechyd lleol eraill yn y gymuned leol sy'n gallu eu helpu i ennill annibyniaeth ac ymreolaeth ac i hybu eu hunanbarch a'u hunanhyder.

“Mae'n wych y byddwn ni'n gallu meithrin cydberthynas â theuluoedd a fydd yn gwella iechyd a lles pobl.

Dywedodd Cath Humes, rheolwr cefnogi codi arian Awyr Las, "Mae'n wych bod cymorth hael ein rhoddwyr yn gallu helpu i ariannu prosiect mor werth chweil.

“Bydd yr Ymwelydd Iechyd yn cynnig cymorth a sefydlogrwydd i'r teuluoedd sy'n aros yn Erw Goch gan helpu i roi'r sgiliau hollbwysig sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen gyda'u bywydau."

Dywedodd Stuart Walls, Uwch Swyddog Prosiect Erw Groes: “Mae hon wedi bod yn fenter wych mewn partneriaeth gydag arian cyfatebol gan y Bwrdd Iechyd ac Awyr Las.

"Roedd yn fodd hollbwysig i ni barhau ar ôl ein menter beilot a ariannwyd gydag arian y Loteri ac mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r rheiny sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned yn Sir y Fflint.”