Neidio i'r prif gynnwy

Ymestyn gwasanaeth Parcio a Theithio Ysbyty Glan Clwyd hyd at 31 Hydref

Rydym yn ymestyn ein contract i ddarparu’r gwasanaeth parcio a theithio yn Ysbyty Glan Clwyd am bedwar mis arall. Ar ôl dod i gytundeb â chwmni Arriva ddydd Gwener, bydd y gwasanaeth parcio a theithio yn awr yn rhedeg hyd at 31 Hydref, 2019.

Drwy ymestyn y gwasanaeth am bedwar mis arall, bydd gennym fwy o amser i edrych ar ffyrdd o leddfu’r materion parcio ar safle Ysbyty Glan Clwyd. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr a staff chwilio am ffyrdd eraill o deithio i’r ysbyty pan fydd y gwasanaeth parcio a theithio wedi cau.  
 
Ein bwriad o hyd yw rhoi’r gorau i weithredu’r gwasanaeth parcio a theithio ar ôl 31 Hydref.
 
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i ofyn i ymwelwyr â’r safle ein helpu i leihau effaith traffig ar y safle.
 
Anogir ymwelwyr i ystyried defnyddio cludiant cyhoeddus pan fo hynny’n bosibl ac i ystyried yr amser sydd ei angen i ddod o hyd i fan parcio wrth gynllunio ymweliad â’r safle.
 
Gofynnwn i staff ystyried edrych ar drefniadau rhannu ceir i helpu i ryddhau mannau parcio. Gall staff hefyd ddefnyddio’r cynllun beicio i’r gwaith yn unrhyw un o safleoedd y Bwrdd Iechyd.
 
Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, mae parcio yn parhau am ddim yn Ysbyty Glan Clwyd.