Neidio i'r prif gynnwy

Uned asesu newydd Ward y Plant yn awr ar agor

Uned asesu newydd Ward y Plant yn awr ar agor

Mae'r uned asesu sydd newydd ei hail ddatblygu yn Ward y Plant yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn awr ar agor gyda mwy o welyau a dau giwbicl ar wahân newydd.

Mae Ward y Plant yn derbyn cyfeiriadau i'r uned 24 awr y diwrnod, yn bennaf gan Feddygon Teulu a'n Hadran Achosion Brys.

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i greu ardal newydd ar y ward i blant hŷn a phobl ifanc. Bydd yr ardal yn cynnwys gwelyau, ystafell ymolchi a mynediad uniongyrchol at ardal gymdeithasol i blant hŷn y mae angen iddyn nhw aros ar y ward.

Mae'r gwaith ailfodelu wedi'i wneud gan Gareth Morris Construction, sydd wedi gweithio gyda'n staff i sicrhau bod yr adran yn parhau i redeg a gweithio'n llwyr drwy'r gwaith mawr. Fe gyfrannodd staff o GMC Construction wyau Pasg i'r plant ar y ward.

Dywedodd Rebecca Morris, Prif Nyrs Ward y Plant, "Rydym yn falch iawn bod yr uned asesu ar waith unwaith eto. Mae'n wych cael mwy o le yn yr uned a gwell cyfleusterau i'n cleifion a'u teuluoedd.

"Mae Gareth Morris Construction wedi bod yn gontractwr ystyriol a thosturiol iawn cyn ac yn ystod gwaith sy'n gallu amharu ar weithgareddau dyddiol y ward. 

"Roedd eu haelioni drwy ddarparu wyau Pasg yn dangos eu hymagwedd ofalgar ac roedd hyn yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan y plant a'r staff."