Neidio i'r prif gynnwy

Timau Diabetes yn cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Diogelwch Inswlin

17/05/2021

Mae timau Diabetes o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol diogelwch inswlin.

Cynhelir Wythnos Diogelwch Inswlin rhwng 17 a 23 Mai, gyda thimau Diabetes y Bwrdd Iechyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws ei leoliadau llym a chymuned, yn cynnwys cysylltu â chartrefi gofal a Meddygon Teulu, a rhannu prif elfennau diogelwch gyda chleifion, i sicrhau bod gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch inswlin yn cael ei gyfathrebu i geisio lleihau gwallau inswlin.

Bu i'r Gwasanaeth Diabetes gyflwyno addysg i staff yn y mis yn arwain at yr ymgyrch saith niwrnod hefyd, a byddant yn parhau i hyrwyddo’r modiwl e-ddysgu 'Defnyddio Inswlin yn Ddiogel' i'r holl staff gofal iechyd drwy gydol y flwyddyn; ynghyd â hyrwyddo'r Rhaglen Addysg Diabetes Caergrawnt ar gyfer cyfleoedd datblygiad proffesiynol.

Dywedodd Julie Moss, Nyrs Datblygu Arfer Diabetes ar gyfer Ardal y Dwyrain o'r Bwrdd Iechyd: "Yr wythnos hon rydym eisiau codi cymaint o ymwybyddiaeth â phosibl am ddiogelwch inswlin i hysbysu cleifion yn ogystal â staff. Ymateb y corff i salwch, haint a straen yw creu mwy o glwcos, sy'n golygu efallai y bydd angen mwy o inswlin yn ystod y cyfnod hwn i reoli lefel glwcos y gwaed, hyd yn oed os nad ydych yn bwyta'n normal. Felly, peidiwch byth â rhoi'r gorau i ddefnyddio inswlin cefndir (er enghraifft Lantus, Levemir, Humulin I); yn hytrach, ffoniwch eich Tîm Diabetes neu Feddyg Teulu os ydych yn bryderus."

Yn ôl canlyniadau'r Archwiliad Cenedlaethol Cleifion Mewnol Diabetes diweddaraf, mae dau o bob pum unigolyn â diabetes (40%) yn cael gwall sy'n ymwneud â gweinyddu'r cyffur tra byddant yn yr ysbyty.

Dywedodd Oliver Jelley, trefnydd yr wythnos diogelwch: "Rydym wrth ein bodd bod gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn gallu gweld manteision yr ymgyrch hon yn ystod y pandemig. Mae'r ymgyrch hon yn rhoi cyfle delfrydol i dimau cleifion mewnol diabetes, meddygfeydd a darparwyr gofal eraill fod yn rhan o gydweithrediad cenedlaethol, lle mae pawb yn dod at ei gilydd am un wythnos yn y flwyddyn i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddiogelwch inswlin a rhannu arfer da."

Am fwy o wybodaeth am Wythnos Diogelwch Inswlin, ewch i www.insulinsafetyweek.com.