Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Endosgopi Ysbyty Gwynedd yn cael eu canmol i'r cymylau gan glaf

Mae tîm Endosgopi Ysbyty Gwynedd wedi cael canmoliaeth fawr gan glaf ar ôl iddi gael 'gofal gwych' yn dilyn ymweliad diweddar â'r uned. 

Yn ddiweddar, mynychodd Rosie Williams, o Gaergybi, ei hapwyntiad endosgopi yn Ysbyty Gwynedd a dywedodd ei bod yn teimlo wedi ei 'sicrhau' ac yn 'ddiogel' cyn gynted ag y cerddodd drwy ddrysau'r brif fynedfa.

Roedd Rosie, sydd â spina bifida, ac a gafodd ddiagnosis o Colitis, i fod i fynychu apwyntiad colonosgopi, triniaeth a ddefnyddir i ganfod newidiadau yn y coluddyn mawr a'r rectwm, yn ôl ym mis Mawrth, ond oherwydd cyfyngiadau symud, aildrefnwyd yr apwyntiad.

Dywedodd: "Roeddwn yn poeni pan gefais fy apwyntiad newydd oherwydd nad oeddwn i'n siŵr os oeddwn i eisiau mynd i'r ysbyty ai peidio - mae'r sefyllfa gyfredol gyda COVID-19 yn eich dychryn. 

"Cyn gynted ag y cerddais drwy ddrysau'r brif fynedfa, roedd yn teimlo mor wahanol gyda'r holl bosteri gwybodaeth a chyngor yno am y feirws, roedd yn teimlo'n rhyfedd i ddechrau - fel bod mewn ffilm.  Fodd bynnag, cyn gynted ag y gwnaed yr alwad i'r uned i roi gwybod iddynt fy mod yma, daeth aelod cyfeillgar o staff i lawr i gwrdd â mi, roeddwn i wedi ymlacio ar unwaith.

"Glanhaodd y gadair olwyn o fy mlaen fel fy mod i'n gallu gweld ei fod wedi gwneud hynny, ac yna aeth â fi i'r adran endosgopi, roedd hyn yn rhyddhad enfawr oherwydd na allwn i gerdded yn bell oherwydd fy spina bifida.   

 "Pan gyrhaeddais yr uned, roeddwn yn gallu gweld bod yr holl staff yn gwisgo PPE (Cyfarpar Diogelu Personol), rhoddodd hyn sicrwydd imi eu bod i gyd yn cymryd rhagofalon i gadw eu hunain yn ddiogel ac yn amlwg yn fy nghadw i'n ddiogel hefyd.

"Unwaith i mi gyrraedd yr ystafell driniaeth, dechreuais deimlo'n nerfus ond roedd gen i'r nyrs mwyaf gofalgar gyda fi.

"Roedd hi'n gallu gweld fy mod yn bryderus, a rhoddodd ei llaw ar fy ysgwydd a siarad gyda mi drwy gydol y broses ac yn fy helpu i anadlu. 

“Yn dilyn y driniaeth, roedd gen i ddwy fyfyrwraig nyrsio hyfryd a helpodd fi i wisgo, roedd hyn mor garedig oherwydd na fyddwn i wedi gallu ei wneud fy hun.

"Unwaith ei bod hi'n iawn i mi adael, cerddodd un o'r nyrsys i lawr y grisiau gyda mi a chynnig mynd â fi yn ôl i'r car ac roeddwn i'n meddwl bod hynny mor garedig. 

“Fe wnaethant driniaeth annymunol yn llawer haws i mi a gwneud imi deimlo’n ddigynnwrf a thawelu fy meddwl drwy’r amser, roeddent yn wirioneddol wych a hoffwn ddiolch iddynt am bopeth a wnaethant i mi.”

Mae Rosie, 41, yn gobeithio y bydd ei phrofiad yn rhoi sicrwydd i gleifion eraill sydd ar fin mynychu eu hapwyntiadau. 

"Rwy'n gwybod y bydd llawer o bobl yn teimlo'n bryderus am fynd i'r ysbyty yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn i'n teimlo'r un fath.

"Mae'n bwysig ofnadwy ein bod yn mynychu'r apwyntiadau - rwy'n falch fy mod wedi mynd am fy nhriniaeth, roedd popeth mor effeithlon ac roedd y staff mor garedig a wnaeth wahaniaeth enfawr i fy mhrofiad.

"Hoffwn roi sicrwydd i bawb sydd â phrawf ar y gorwel, ac efallai'n teimlo'n bryderus am fynd i'r ysbyty, bod y staff yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod pawb yn parhau mor ddiogel â phosib," ychwanegodd Rosie. 

Dywedodd Dr Jonathan Sutton, Arweinydd Clinigol ar gyfer Gastroenteroleg ac Endosgopi: "Mae'n braf cael adborth cadarnhaol gan gleifion, yn enwedig yn ystod y pandemig Covid cyfredol.  

"Rydym yn cymryd gofal ychwanegol i roi mesurau ar waith i sicrhau bod ein staff a'n cleifion yn cadw'n ddiogel bob tro pan fyddant yn mynychu'r Adran Endosgopi.  

"Hoffwn ddiolch i Rosie am ei hadborth, a gobeithiaf ei fod yn rhoi sicrwydd i gleifion fel eu bod yn teimlo'n hyderus i fynychu eu hapwyntiadau yn Ysbyty Gwynedd yn y dyfodol."