Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Anableddau Dysgu Gogledd Cymru sy'n "mynd gam ymhellach" ar y rhestr fer am brif wobr iechyd cenedlaethol

Tîm Anableddau Dysgu Gogledd Cymru sy’n “mynd gam ymhellach” ar y rhestr fer am brif wobr iechyd cenedlaethol

Mae tîm gofal iechyd sydd wedi’u lleoli yn Llanfairfechan wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer am brif wobr genedlaethol am “fynd gam ymhellach” i wella ansawdd bywyd pobl sydd ag anableddau dysgu.

Llwyddodd y staff ar Ward Foelas yn Ysbyty Bryn y Neuadd i fod ar y rhestr fer am Wobr Nyrsio Anableddau Dysgu y Nursing Times, allan o gannoedd o enwebiadau ar draws y Deyrnas Unedig.  

Wedi’i leoli yn y coetir rhwng y môr a Mynyddoedd y Carneddau, mae Ward Foelas yn rhoi gofal arbenigol i hyd at wyth oedolyn sydd ag Anableddau Dysgu ac anghenion iechyd cymhleth.

Cydnabuwywyd y “tîm ysbrydoledig a medrus iawn” am eu hymdrechion i wella ansawdd bywyd pobl sydd ag anableddau dysgu, yn cynnwys y rheiny sydd angen gofal diwedd oes.

Mae hyn yn cynnwys lleihau’r amser y mae cleifion yn ei dreulio yn yr ysbyty, cynyddu’r ystod o weithgareddau therapiwtig sydd ar gael, a sicrhau bod anghenion unigol cleifion yn cael eu bodloni drwy ddarparu gofal sydd wir yn canolbwyntio ar y claf.

Tîm Anableddau Dysgu Gogledd Cymru sy’n “mynd gam ymhellach” ar y rhestr fer am brif wobr iechyd cenedlaethol

Mae’r tîm yn barod wedi cael achrediad Rhwydwaith Ansawdd ar gyfer Anableddau Dysgu gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, coleg sy’n uchel eu parchu, i gydnabod y gefnogaeth eithriadol a ddarperir i bobl sydd ag anableddau dysgu ar draws Gogledd Cymru.

Byddant yn gobeithio cael mwy o lwyddiant pan fyddant yn cyflwyno cyflwyniad ar eu gwaith i banel y Nursing Times ym mis Medi, cyn mynychu seremoni gwobrwyo mawreddog yn Llundain ym mis Hydref.

Enwebwyd staff Ward Foelas am y wobr gan Michelle Jones, Hwylusydd Gwella Gwasanaeth gyda BIPBC. Dywedodd:

“Mae tîm Foelas yn benderfynol iawn i sicrhau bod gofal holistaidd o ansawdd sy’n canolbwyntio ar gleifion yn cael ei ddarparu o’r dechrau i’r diwedd. Mae’r tîm ysbrydoledig a medrus iawn yn parhau i weithredu fel arweinwyr mewn arloesi a rhagoriaeth nyrsio.

“Mae perthnasau, defnyddwyr gwasanaeth, myfyrwyr a chydweithwyr wedi mynegi eu hystyriaeth uchel am y tosturi a’r gofal o ansawdd uchel y mae staff Foelas yn ei ddarparu a’u parodrwydd i fynd y tu hwnt i’w dyletswyddau’n rheolaidd.”

Ychwanegodd Tracey Clement, Rheolwr Ward Foelas:  “Rwy’n ystyried fy hun yn freintedig iawn i gefnogi tîm o staff mor brwdfrydig ac ysgogol. Mae’r holl dîm o hyd yn edrych am ffyrdd y gallent ddatblygu’r ward, yn bersonol ac yn cefnogi’i gilydd yn barhaus er mwyn gwella ansawdd gofal y cleifion rydym yn eu cefnogi. Mae pob un ohonynt wedi profi eu bod yn fedrus a phenderfynol iawn i gyflawni y nodau maent yn eu gosod i’w hunain.”   

“I ni, does dim gwobr neu ffordd well i fesur effaith gwaith y tîm na chydnabyddiaeth gan glaf boed hynny drwy wen, ystum neu drwy wasgu llaw – a dyma sut ydym yn barnu ansawdd y gofal yr ydym yn ei ddarparu.”

Mae’r tîm nyrsio o Ysbyty Alltwen a staff o Uned Gofal Dwys Seiciatrig Tyweryn yn Wrecsam hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau’r Nursing Times.