Neidio i'r prif gynnwy

Staff ward yn gwisgo'u hesgidiau rhedeg ar gyfer Ras y Wyddfa eleni!

Staff ward yn gwisgo

Mae dau ffrind sy'n gweithio gyda'i gilydd ar ward lawfeddygol yn Ysbyty Gwynedd yn hyfforddi er mwyn cyflawni un o heriau dygnwch anoddaf Ewrop.

Bydd Chris Hoult, Ymarferydd Cynorthwyol a Nyrs Leanne Baxter, sy'n gweithio ar Ward Tegid, yn cymryd rhan yn Ras y Wyddfa eleni. Mae'r ras 10 milltir yn cynnwys rhedeg o ymyl Llyn Padarn yn Llanberis at y copa uchaf yng Nghymru a Lloegr ac yn ôl i lawr.

Mae'r ras yn ddechrau ymgyrch codi arian ar gyfer y ward, er mwyn prynu sganiwr y bledren a pheiriant ECG ar gyfer eu ward.

Mae Leanne, o Fangor, a ddechreuodd hyfforddi gyda Chris yr haf diwethaf yn edrych ymlaen at wneud ras boblogaidd y Wyddfa am y tro cyntaf.

Dywedodd: "Rwyf wedi bod yn mwynhau rhedeg ers blynyddoedd ond pan ddechreuais fy hyfforddiant nyrsio nid oedd gennyf gymaint o amser i redeg.

“Roeddwn eisiau ailgynnau fy nghariad at redeg yn yr awyr agored eto, mae hyn wedi fy helpu i gael fy ffitrwydd yn ôl a hefyd i fod yn iachach, sy'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi.

"Rwyf wedi bod yn hyfforddi'n galed iawn ac rwy'n edrych ymlaen at herio fy hun drwy gymryd rhan yn y ras.

"Roeddem eisiau gwneud hyn gyda'n gilydd i hybu pwysigrwydd bod yn iach ac yn ffit ymysg ein cydweithwyr a'r cyhoedd.

"Roedd hyn hefyd yn gyfle da i ni gasglu nawdd fel y gallwn godi arian tuag at brynu sganiwr y bledren a pheiriant ECG ar gyfer ein ward."

Dywedodd Chris, o Gaernarfon, a gafodd wybod gan ei Feddyg Teulu yn 2012 ei fod yn ordew yn glinigol ac mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2, fod ei benderfyniad i ddechrau rhedeg wedi bod yn bednerfyniad newid bywyd iddo.

Dywedodd: "Yn ogystal â bod dros fy mhwysau roedd gennyf gamau cynnar o COPD oherwydd fy mod yn ysmygu dros 40  siagrét y diwrnod. Nid yn unig roeddwn dros fy mhwysau, nid oeddwn yn gallu cerdded i fyny'r grisiau heb wichian ac roedd gennyf beswch drwg a salwch sy'n gysylltiedig â'r frest yn rheolaidd.

"Penderfynais nad oeddwn eisiau cario ymlaen fel yr oeddwn a sylweddolais ei fod yn amser i mi roi'r gorau i ysmygu, yfed a dechrau bwyta'n iachach.

"Ers i mi wneud y newidiadau hynny i fy ffordd o fyw a dechrau rhedeg, rwy'n hapusach, yn iachach ac mae fy iechyd meddwl a fy lles yn wych.

"Mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fy mywyd - rydych yn cael y teimlad gorau wrth redeg yn y lle hardd a hudol rydym yn byw ynddo".

Bydd Leanne a Chris yn cymryd rhan yn Ras y Wyddfa ar 20 Gorffennaf, gallwch eu noddi drwy ymweld â https://www.justgiving.com/crowdfunding/chrisandleanne

https://www.hyfforddigweithiobywgogledd.cymru/?force=2