Neidio i'r prif gynnwy

Staff Cymuned y GIG yn gwella monitro sepsis fel rhan o raglen wella Cymru gyfan

Mae timau nyrsio ardal ledled y ddwy sir wedi cael yr offer diagnostig diweddaraf fel rhan o gyflwyniad cenedlaethol y rhaglen Cymru gyfan i adnabod sepsis yn gynnar.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi buddsoddi mewn offer newydd i nyrsys cymuned ar draws Conwy, Sir Ddinbych, Ynys Môn a Gwynedd. 

Mae'r Sgôr Cenedlaethol Rhybudd Cynnar (NEWS) yn cael ei gyflwyno i waith bob dydd staff therapïau a nyrsio cymuned ar draws Gogledd Cymru. 

Mae NEWS, a gafodd ei gyflwyno i Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn 2016, yn helpu gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i asesu cleifion ar gyfer arwyddion o salwch a dirywiad llym, yn cynnwys sepsis.

Mae staff GIG Gogledd Cymru wedi cael peiriannau ECG, monitorau pwysedd gwaed a stilwyr newydd i helpu gwella rhoi diagnosis a monitro cleifion i ffwrdd o'r ysbyty.

Mae gan yr offer newydd fwy o wybodaeth am iechyd y claf, gan eu helpu i adnabod arwyddion o ddirywiad a sepsis yn gynt.

Dywedodd Jessica Williams, Rheolwr Tîm Nyrsio Ardal Llandudno:  "Po gyntaf y gallwch adnabod arwyddion sepsis, y mwyaf tebygol ydych o roi'r ymyrraeth gywir i helpu rhywun i ymladd yr haint.

"Mae'r offer newydd yn ein helpu ni i gael gwell dealltwriaeth o sut mae claf yn gwneud, ac yn rhoi mwy o hyder i ni gyfeirio at Feddyg Teulu neu Uwch Nyrs Ymarferydd am fwy o driniaeth."

Fel rhan o fenter Cymru gyfan, cyflwynir NEWS i waith bob dydd staff cymuned y GIG i helpu i ddynodi dirywiad llym, yn cynnwys Sepsis, yn gynt.

Mae sgorio NEWS yn cael ei ddefnyddio gan dros 170 o dimau nyrsio ar draws Cymru, yn cynnwys 1,500 o nyrsys ardal.