Neidio i'r prif gynnwy

Staff anableddau dysgu yn cymryd rhan mewn her elusen 300 milltir

Staff anableddau dysgu yn cymryd rhan mewn her elusen 300 milltir

Mae tîm o staff anableddau dysgu GIG ar fin cerdded strydoedd a mynyddoedd Gogledd Cymru fel rhan o her elusen egniol.

Mae dwsinau o staff o Wasanaeth Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar fin cymryd rhan yn yr her 300 milltir i godi arian ar 1 Mehefin.

Wrth wneud hynny, mae'r tîm ymroddgar yn gobeithio codi arian i gefnogi elusen anableddau dysgu 'Sefydliad Paul Ridd' a Gwasanaeth Anghenion Cymhleth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru drwy elusen y GIG, Awyr Las.

Mae 'Her Gogledd Cymru' yn un o nifer o ddigwyddiadau sy'n cael eu trefnu gan staff BIPBC drwy 2019 i ddathlu 100 mlynedd o nyrsio anableddau dysgu.

Staff anableddau dysgu yn cymryd rhan mewn her elusen 300 milltir

Bydd yr her yn golygu bydd y tîm yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau noddedig, gan gynnwys taith feics o Bwllheli i Ysbyty Abergele; heriau cerdded a rhedeg gan ddechrau yn Ysbyty'r Wyddgrug ac Ysbyty Gwynedd; a her marchogaeth o safle Ysbyty Oakwood yng Nghonwy.

Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu gan Simon Sherriff, Arweinydd Tîm o fewn Gwasanaeth Anableddau Dysgu BIPBC, a fydd yn ceisio dringo'r Wyddfa ac yna cwblhau 15 copa Eryri, sydd dros 3,000 troedfedd mewn uchder mewn 24 awr.

Dywedodd: "Rydym wedi dewis cefnogi dau achos sy'n agos iawn at ein calonnau ac mae cymaint o bobl wedi rhoi cymaint o ymdrech i'w wneud yn achlysur cofiadwy. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr."

Sefydlwyd ‘Sefydliad Paul Ridd’ gan Jayne Nicholls a Jonathan Ridd, sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino i wella safonau gofal anableddau dysgu ers marwolaeth eu brawd Paul mewn ysbyty yn Ne Cymru yn 2009.

Ers ei farwolaeth dywed y teulu eu bod wedi troi "dicter i weithrediad" ac wedi canmol BIPBC am weithio ochr yn ochr â nhw i wella safon y gofal.

Mae Gwasanaeth Anghenion Cymhleth yn darparu cefnogaeth o'r crud i'r bedd ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu sy'n dangos ymddygiad all herio. Mae tîm BIPBC yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i sicrhau bod y defnyddwyr gwasanaeth hyn yn cael yr ansawdd bywyd maent yn eu haeddu.”

I noddi'r tîm, ewch ar https://thegreatnorthwaleschallenge.raisely.com/ neu https://thegreatnorthwaleschallenge.raisely.com/