Neidio i'r prif gynnwy

Seicotherapydd o Ganada yn mynd y filltir ychwanegol i ddysgu Cymraeg ar gyfer cleifion

24.06.22

Mae therapydd o Ganada wedi cael canmoliaeth am fynd y filltir ychwanegol i ddysgu'r Gymraeg fel y gall gyfathrebu'n well â chleifion.

Treuliodd Manuela Niemetscheck, Seicotherapydd Celf sy'n hanu'n wreiddiol o Ganada, amser yn dysgu Cymraeg trwy ddosbarthiadau cymunedol a chyrsiau yng nghanolfan dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn cyn dechrau yn ei swydd yn Uned Hergest Bangor.

Dywedodd Manuela, sydd wedi dysgu pum iaith gan gynnwys Ffrangeg, Catalaneg, Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg, ei bod am ymdrwytho yn y gymuned yn dilyn symud i Gymru a bod dysgu'r Gymraeg yn rhan bwysig o hynny.

Dywedodd: "Roeddwn i'n byw yng Nghaernarfon pan symudais i Gymru yn y lle cyntaf, lle bo nifer fawr o siaradwyr Cymraeg felly roeddwn i am ddysgu'r iaith yn syth.

"Ymunais â rhai dosbarthiadau cymunedol yn ogystal â mynd i Nant Gwrtheyrn ddwywaith i helpu gyda'm dysgu. Roedd yn brofiad gwych, dysgais gymaint ac roedd gen i gymuned wych hefyd lle gallwn i ymarfer fy sgiliau iaith newydd."

Mae Manuela yn defnyddio therapi gelf yn ei rôl fel cyfrwng i fynd i'r afael â materion emosiynol, a allai fod yn ddryslyd a gofidus. Dywed fod gallu siarad Cymraeg wedi caniatáu iddi gynnal sesiynau dwyieithog yn y gweithle.

"Mae'n hynod bwysig ein bod ni'n gallu darparu gwasanaeth dwyieithog a chan fod fy rôl i bob amser yn ymwneud â chreu man diogel i'n cleifion, mae gallu cynnal trafodaethau yn Gymraeg yn hollbwysig i rai o'n cleifion.

"Mae'n bwysig bod y Gymraeg yn fyw yn ein sesiynau a'n triniaeth.

"Gall dysgu Cymraeg fod yn heriol, ond yn debyg i ddysgu unrhyw beth, mae'n cymryd amser a dyfalbarhad, ac mae'n talu ar ei ganfed.

"Roedd yn bwysig i mi ddysgu iaith fy ngwlad a'm cymuned newydd - rydw i wedi teimlo'r manteision enfawr ac rydw i'n falch fy mod i'n gallu defnyddio fy sgiliau gyda chleifion. 

"Mae gennym ni Dîm Cymraeg gwych yn ein Bwrdd Iechyd sydd yno i roi cymorth i ni o ran dysgu'r iaith - mae'n cymryd amser a chryn dipyn o ymarfer ond mae'n llawer o hwyl ar yr un pryd ac mae'n gwneud i mi deimlo fy mod i'n rhan o'r gymuned," ychwanegodd Manuela.

Cafodd Manuela ei choroni yn Ddysgwr Cymraeg y Flwyddyn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd mewn seremoni yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi Tiwtor Cymraeg llawn amser, Beth Jones sy'n darparu cyrsiau a grwpiau sgwrsio Cymraeg ar gyfer staff ar draws Gogledd Cymru.

Dywedodd: "Rydym ni mor falch o'n staff sy'n gwneud yr ymdrech i ddysgu Cymraeg ac sydd yna'n defnyddio eu sgiliau i ddarparu gwasanaeth dwyieithog ar gyfer ein cleifion. Mae Manuela wedi meistroli'r Gymraeg; ac mae'n wych ei gweld yn defnyddio ei Chymraeg o ddydd i ddydd yn y gwaith ac yn y gymuned - mae hi'n ysbrydoliaeth i eraill.

“Llongyfarchiadau i Manuela am ennill Gwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn gan y Bwrdd Iechyd yn ôl ym mis Mawrth 2022. Mae'r gystadleuaeth yn ffordd wych i ni ddathlu ein dysgwyr Cymraeg ac i annog mwy o staff i ddechrau dysgu'r Gymraeg."