Neidio i'r prif gynnwy

Seicolegydd yn cynnig cymorth ychwanegol erbyn hyn i gleifion sy'n gadael Gofal Dwys yn Ysbyty Gwynedd diolch i roddion elusennol

Seicolegydd yn cynnig cymorth ychwanegol erbyn hyn i gleifion sy

Mae seicolegydd bellach yn cynnig cymorth ychwanegol i gleifion sy'n dod i delerau â'u profiad o salwch critigol diolch i roddion elusennol.

Efallai y caiff cleifion sydd wedi gorfod aros ar yr Uned Gofal Dwys (ICU) eu tawelyddu am gryn amser tra byddant ar beiriannau anadlu mecanyddol.

Ar ôl cael eu rhyddhau o'r uned, bydd cleifion yn aml yn cael bylchau o ran y cof ar ôl eu salwch ac mae clinigau dilynol ar gael i gynnig cymorth ychwanegol.

Ryw 12 mis yn ôl, cafodd prosiect peilot gydag Adran Seicoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei sefydlu, lle gwnaeth Bethan Henderson, Uwch Seicolegydd Clinigol, ymuno â chlinig dilynol er mwyn asesu lles seicolegol cleifion ac i gynnig cymorth pellach os bydd angen. 

Dywedodd Felicity Powell, Prif Nyrs ar Uned Gofal Dwys ac Uned Dibyniaeth Fawr Ysbyty Gwynedd: “Soniodd cleifion ei bod yn fuddiol trafod sut roeddent yn datblygu o safbwynt corfforol a seicolegol, a chafodd nifer o gleifion eu gweld am gymorth seicolegol pellach. 

“Oherwydd lefel mawr gofid yn achos cleifion sydd wedi bod â salwch critigol, a chan fod ein cleifion wedi'i gweld yn fuddiol cael seicolegydd yn y clinig, gwnaethom gais i’n Elusen GIG, Awyr Las, am gyllid er mwyn caniatáu i'r gwasanaeth barhau.

“Hon yw'r swydd gyntaf o'i bath yng Ngogledd Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu'r gofal seicolegol sydd ar gael i'n cleifion."

Ychwanegodd Bethan: “Yn hanesyddol, mae triniaeth gofal dwys wedi canolbwyntio ar iacháu salwch corfforol.

“Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos, bod cleifion sy'n cael eu tawelyddu ac sydd ar beiriannau anadlu ar unedau gofal dwys yn gallu dioddef nam ar y cof, ac yn aml, byddant yn cael gofid seicolegol sy'n gallu para am gryn amser. 

“Dangoswyd bod cadw dyddiadur i gleifion tra byddant ar ICU yn helpu i leihau  effeithiau nam ar y cof, gofid seicolegol a hybu adferiad ar ôl aros yn ICU. Nid yn unig mae dyddiaduron yn llenwi bylchau yn y cof ond maen nhw hefyd yn cynnig ymyriad gofal sy'n gallu hybu gofal nyrsio cyfannol."

Dywedodd Sandra Robinson-Clark, Metron yr Uned Gofal Dwys, fod y tîm yn hynod ddiolchgar am y rhoddion i ariannu'r swydd newydd hon.

Dywedodd: “Mae'r Tîm Gofal Critigol yn hynod ddiolchgar am y rhoddion rydym yn eu cael gan yr holl gleifion a'r perthnasau trwy’n helusen, Awyr Las.

"Mae hyn wedi caniatáu i ni ariannu swydd Dr Henderson yn ein clinig dilynol a fydd yn fuddiol i anghenion ein cleifion dros y 12 mis nesaf.

“Mae hon yn enghraifft wych i ddangos sut gall rhoddion elusennol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cleifion hynny sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw."