Neidio i'r prif gynnwy

Seicolegydd wedi'i dewis fel pencampwr diabetes dros Wrecsam

Seicolegydd wedi

Mae seicolegydd o Wrecsam wedi'i dewis fel Pencampwr Clinigol ar gyfer Diabetes UK, er mwyn helpu i drawsnewid gofal i bobl sy'n byw gyda diabetes yn yr ardal.

Cafodd Dr Rose Stewart, Prif Seicolegydd Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei dewis am ei hangerdd tuag at ragoriaeth ym maes gofal diabetes a'i hymrwymiad yn hynny o beth.

Mae diabetes yn gyflwr lle mae gormod o glwcos yn y gwaed gan nad yw'r corff yn gallu ei ddefnyddio'n briodol. Mae dros 194,000 o bobl yn byw gyda diabetes yng Nghymru a hwn yw'r amlder uchaf yn y DU. Mae dros 61,000 o bobl yng Nghymru hefyd yn byw gyda diabetes Math 2, nad ydynt yn gwybod bod y cyflwr arnynt gan nad ydynt wedi derbyn diagnosis.

Os nad yw'n cael ei reoli'n briodol, gall diabetes Math 1 a Math 2 arwain at gymhlethdodau difrifol fel nam ar y golwg, torri coes i ffwrdd, methiant yr arennau a strôc.

Gall diabetes amrywio'n fawr mewn rhanbarthau gwahanol, ac mae llawer o bobl yn cael anhawster i fanteisio ar y gwasanaethau hollbwysig sydd eu hangen arnynt i reoli eu cyflwr yn dda. Fel Pencampwr Clinigol, bydd Dr Stewart yn ymuno â rhaglen datblygu arweinyddiaeth dwy flynedd, gyda chefnogaeth Diabetes UK. Trwy ei hyfforddiant, bydd yn nodi meysydd sydd angen eu gwella ac yn gyrru newidiadau hollbwysig yn eu blaen i'r gwasanaethau diabetes y bydd pobl yn y rhanbarth yn eu derbyn. 

Dywedodd Dr Stewart: “Rydw i wedi cyffroi'n lân am fy rôl newydd fel Pencampwr Clinigol ar gyfer Diabetes UK, ac am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru ac ar draws y DU. Rydw i'n bwriadu gwneud hyn trwy ddatblygu dealltwriaeth, adnoddau a mentrau i gynyddu lles seicolegol yn yr holl wasanaethau diabetes, ac annog pobl ifanc sy'n byw gyda diabetes i gymryd rhan mewn cynllunio eu gwasanaethau a'u gwella."

Mae Dr Stewart yn un o 20 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y DU, yn cynnwys meddygon ymgynghorol, nyrsys, meddygon teulu, deietegwyr, podiatregwyr, fferyllwyr a seicolegwyr i gael eu penodi'n Bencampwyr Clinigol eleni.

Dywedodd Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Gall buddsoddi mewn hyfforddiant ac uwchraddio sgiliau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol helpu i leihau nifer y cymhlethdodau difrifol sy'n gysylltiedig â diabetes, a'r costau personol - ac economaidd torcalonnus - sy'n dod yn eu sgil.

“Mae pencampwyr clinigol fel Dr Stewart yn cyflawni rôl hollbwysig o ran gwella'r driniaeth a'r cymorth y bydd pobl sydd â diabetes yn eu derbyn fel bod modd iddynt fyw bywydau hir ac iach."

Mae'r rhaglen Pencampwyr Clinigol arobryn yn cynnig dull datblygu arweinyddiaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan eu galluogi i wella gofal diabetes ac i ddod o hyd i atebion arloesol i broblemau lleol. Mae 105 o bencampwyr ar draws y DU erbyn hyn sydd â mynediad at rwydwaith o glinigwyr o'r un anian y gallant rannu arbenigedd, profiad ac arfer gorau gyda nhw.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Bencampwr Clinigol Diabetes UK i ddechrau yn 2020-2022, cysylltwch âclinicalchampions@diabetes.org.uk neu ffoniwch 020 7424 1052. Prosiect Diabetes UK yw hwn ar y cyd â Novo Nordisk sy'n cynnig cymorth a chyllid.