Neidio i'r prif gynnwy

Radiograffydd o Wrecsam yn ennill gwobr fawreddog

Mae Radiograffydd o Wrecsam, sy'n gweithio yn HMP Berwyn, wedi cael ei henwi'n Radiograffydd y Flwyddyn dros Gymru.

Bydd Tess Roberts, sydd wedi cael ei chydnabod am ei gwaith  i ddarparu diagnosteg brydlon ar y safle, yn derbyn ei gwobr yng ngwobrau blynyddol Radiograffydd y Flwyddyn ym mis Tachwedd.

Dywedodd Tess, sydd wedi bod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am naw mlynedd ei bod yn fraint iddi gael ei henwebu am y wobr.

Dywedodd: "Rwy'n teimlo'n falch iawn fy mod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr gan fy rheolwyr yn HMP Berwyn.

"Roedd cael llythyr i ddweud fy mod wedi cael fy nghyhoeddi fel yr enillydd dros Gymru yn sioc fawr!

"Mae bod yn rhan o'r tîm integredig yma yn fraint ac rwyf wedi bod yn lwcus iawn o ran y cyfleoedd rwyf wedi'i gael ers i mi ddechrau ar ddiwedd 2016.

"Mae wedi bod yn brofiad gwych i sefydlu'r gwasanaeth; o'i sefydlu i ddarparu'r gwasanaeth ydyw heddiw."

Cymhwysodd Tess fel radiograffydd o Brifysgol Cymru Bangor ac fe weithiodd yn Ysbyty Maelor Wrecsam hyd nes diwedd 2016 ble roedd yn gweithio'n bennaf mewn radiograffeg cyffredinol a radioleg ymyriadol.

Ym mis Medi 2017, dechreuodd ar raglen Meistr mewn Uwch Arfer Clinigol ym Mhrifysgol Glyndŵr ac mae'n awr ar ei blwyddyn olaf.

"Mae'r wybodaeth a'r sgiliau rwyf wedi'i gael gan y rhaglen MSc hon wedi caniatáu i mi asesu cleifion sydd wedi cael mân anafiadau a'u rheoli a hefyd archwilio systemau resbiradol, cardiaidd, yr abdomen a systemau niwrolegol. Golyga hyn bod gan gleifion brofiad mwy effeithiol o lawer nac o'r blaen, mwy o ofal prydlon ac yn gweld llai o weithwyr proffesiynol am yr un peth. 

"Rwy'n gallu cefnogi fy nghydweithwyr nyrsio a Meddyg Teulu y mae galw mawr amdanynt.  Mae hefyd wedi caniatáu i wasanaeth mân anafiadau pwrpasol gyda chydweithwyr ffisiotherapi a therapi galwedigaethol gael ei ddatblygu ac rwyf wedi datblygu perthnasau gwaith cryf â phartneriaid eraill megis ein cydweithwyr Orthopaedig.

"Fel rhan o'r tîm integredig cefnogol hwn rwyf wedi dysgu cymaint gan fy nghydweithwyr o bob disgyblaeth, gan werthfawrogi eu rolau a'u sgiliau unigol. Yn sicr, sefydlu'r gwasanaeth radioleg a mân anafiadau yw fy llwyddiant gyrfa rwyf fwyaf balch ohono hyd yma, mae nifer o bobl wedi fy helpu a fy nghefnogi ar hyd y ffordd ac mae cael cydnabyddiaeth am y gwaith yn deimlad gwych ac rwyf yn falch iawn ac yn ddiolchgar i fy nghydweithwyr,” ychwanegodd.