Neidio i'r prif gynnwy

Profion gwrthgyrff yn dechrau yng Ngogledd Cymru

Mae profion gwrthgyrff am COVID-19 wedi dechrau yng Ngogledd Cymru.

Mae staff Gwyddorau Gwaed ar draws Gogledd Cymru wedi dechrau gwneud profion gwaed ar Staff y GIG a gweithwyr allweddol fel rhan o raglen genedlaethol i wella ein dealltwriaeth o’r firws.

Caiff gwrthgyrff eu creu gan y system imiwnedd mewn ymateb i heintiau penodol. Gellir defnyddio’r profion i weld os yw unigolyn wedi cael ei heintio â’r coronafirws newydd COVID-19 ai peidio.

Dim ond ychydig o brofion fydd ar gael, gan flaenoriaethu grwpiau staff ar gyfer eu profi yn dilyn arweiniad Llywodraeth Cymru.

I ddechrau, byddwn yn cynnig profion i rai o’r staff addysgu o bob un o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru. Bydd yr awdurdod lleol sy’n eu cyflogi yn cysylltu â’r staff addysgu a ddewiswyd ar draws Gogledd Cymru i drefnu prawf.

Mae capasiti ar gael ar gyfer staff y GIG sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru hefyd. Gwahoddir staff i gymryd rhan fel rhan o gyflwyno’r prawf yn raddol, gan ddibynnu ar y capasiti sydd ar gael, gan flaenoriaethu staff rheng flaen sydd â chyswllt rheolaidd â chleifion sydd gyda COVID-19 neu amheuaeth ohono.

Mae’r capasiti cyfredol yn caniatáu i oddeutu 500 o brofion gael eu cynnal yng Ngogledd Cymru bob dydd.

I helpu i reoli’r galw a’r adnoddau, bydd tair uned fflebotomi pwrpasol yn agor yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Enfys Llandudno, ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Bydd yr unedau yn gweithredu ar sail gwahoddiad yn unig, ac ni fyddent yn cynnig gwasanaeth galw heibio.

Dywedodd Rachael Surridge, Rheolwr Gwasanaethau Gwyddorau Gwaed: “Mae angen llawer o waith ymchwil o hyd i ddeall COVID-19 yn llawn, sut mae’n effeithio ar bobl, a sut allwn amddiffyn ein hunain orau rhag ei ddal.

“Drwy gymryd rhan mewn rhaglen genedlaethol o brofion gwrthgyrff, rydym yn gallu chwarae ein rhan mewn deall yn well sut mae’r firws yn gweithio. O bosibl, bydd yr ymchwil hwn yn ein helpu i ddeall p’un ai a fydd y rheiny sydd wedi’i gael yn cael eu hamddiffyn rhag ei ddal eto yn y dyfodol, ac am ba mor hir.

“Drwy gofnodi pwy sydd wedi datblygu gwrthgyrff, p’un ai eu bod yn parhau i gael y gwrthgyrff hynny dros gyfnod o amser, ac os ydynt wedi cael symptomau COVID-19 neu’n eu datblygu, gallwn chwarae ein rhan i barhau i fodloni’r heriau sy’n dod yn sgil COVID-19.”

Nid yw’r Gwasanaethau Gwaed yn cymryd ceisiadau unigol ar gyfer profion ar hyn o bryd.

Mae’r arweiniad cyfredol yn awgrymu y gall gwrthgyrff gymryd amser i gael eu creu ar ôl i unigolyn gael ei heintio’r â’r coronafirws COVID-19. Nid yw’n hysbys am ba mor hir y gellir canfod y gwrthgyrff yn y gwaed ar ôl cael yr haint chwaith, ac ni fydd cyfran fach o bobl yn creu gwrthgyrff ar ôl cael eu heintio. 

Mae profion gwrthgyff ar gyfer COVID-19 yn dal yn newydd iawn ac nid ydym yn deall y cyfyngiadau’n llawn o ran y clefyd COVID-19. Drwy gymryd samplau gwaed i archwilio statws gwrthgyrff rydym yn gobeithio deall defnydd profion gwrthgyrff yn well.

Mae’n bwysig cofio nad yw prawf positif yn cadarnhau imiwnedd ac mae’n bosibl y gallwch gael eich heintio â COVID-19 unwaith eto.

Gall canlyniad negatif un ai olygu nad ydych wedi bod yn agored i COVID-19 neu nad ydych wedi cael prawf yn y cyfnod amser cyn i’ch corff allu creu ymateb gwrthgyrff.

Gall gymryd mwy na phythefnos i gael ymateb gwrthgyrff ar ôl bod yn agored i COVID-19.

Cliciwch yma i weld y Cwestiynau Cyffredin Prawf Gwrthgyrff COVID-19