Neidio i'r prif gynnwy

Plediad brechlynnau 'amddiffyn eich plant rhag afiechyd yr haf hwn' gan arbenigwr pediatrig

Ebrill 24, 2023

Dylai rhieni sy’n trefnu gwyliau haf sicrhau bod eu plant wedi’u hamddiffyn rhag clefydau difrifol cyn teithio, yn ôl arbenigwraig ym maes imiwneiddio.

Dywedodd Dr Siân Owen fod nifer yr achosion o’r frech goch wedi cynyddu ledled Ewrop yn ystod blynyddoedd diweddar, ac fe wnaeth hi erfyn ar rieni i sicrhau bod eu plant yn cael yr holl frechiadau gofynnol.

Adleisiodd rybudd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ystod yr Wythnos Imiwneiddio'r Byd eleni.

“Diolch byth, mae llawer o glefydau a allai fod yn ddifrifol ac a oedd yn gyffredin yn y gorffennol yn brin iawn yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn oherwydd y brechiadau rheolaidd a gynigir i bob baban a phlentyn ifanc,” meddai Dr Owen, meddyg arbenigol cyswllt ym maes pediatreg cymuned a’r meddyg sy’n arwain imiwneiddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Ond ni allwn ni gymryd yr amddiffyniad hwn yn ganiataol. Mae angen i ni sicrhau bod cymaint o blant ag y bod modd yng Ngogledd Cymru yn cael y brechiadau hyn i’w hamddiffyn rhag mynd yn sâl ac i atal clefydau rhag lledaenu yn y gymuned ehangach.

“Gallai plant sydd heb eu brechu, neu rai sydd heb gael yr holl frechiadau gofynnol, fod yn agored i ddal clefydau heintus megis y frech goch, difftheria neu glwy’r pennau os bydd y rhain yn cychwyn lledaenu.

“Wrth i ni edrych ymlaen at dymor gwyliau’r haf tebycach i’r arfer yn dilyn pandemig COVID-19, dylai rhieni fachu ar y cyfle hwn i sicrhau y caiff eu plant unrhyw frechiadau rheolaidd y gallai eu plant fod wedi’u methu. Mae hyn yn neilltuol o bwysig oherwydd rydym yn cymdeithasu ac yn teithio mwy erbyn hyn.

“Cofiwch flaenoriaethu brechu eich plant. Mae’n rhad ac am ddim ac efallai mai dyma’r peth pwysicaf a wnewch chi yn ystod yr haf hwn.”

Dylid cofnodi brechiadau eich plentyn yn eu llyfr coch, neu gallwch sgwrsio ymwelydd iechyd neu eich nyrs practis i gael gwybodaeth am y brechiadau mae arnynt eu hangen.

Ledled Gogledd Cymru, bydd miloedd o blant sy’n bedair blwydd oed ac yn iau yn cael eu brechiadau bob blwyddyn. Bydd brechiadau yn helpu i roi hwb i imiwnedd plant rhag clefydau, a chânt eu profi’n drylwyr ac maent yn ddiogel ac yn effeithiol.

Yn ddelfrydol, dylai eich plentyn gael brechiadau pan gewch chi wahoddiad i’w cael, ond ni fydd hi fyth yn rhy hwyr i ddal i fyny.

Caiff Wythnos Imiwneiddio'r Byd ei rhedeg rhwng 24 a 30 Ebrill, a’i diben yw dwyn sylw at sut gallwn ni ein hamddiffyn yn well rhag clefydau y gellir eu hatal â brechiadau.  ‘The Big Catch Up’ yw’r thema eleni, i annog rhieni i sicrhau bod eu plant wedi cael yr holl ddosys argymelledig o frechiadau rheolaidd cyfnod plentyn yn dilyn y tarfu yn sgil pandemig COVID-19.

Mae rhagor o wybodaeth am frechiadau rheolaidd cyfnod plentyndod ar gael yma.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio.