Neidio i'r prif gynnwy

Plant ysgol a rhieni'n dod at ei gilydd yn y gegin i hyrwyddo bwyta'n iach

Mae plant ysgol a'u rhieni, neiniau a theidiau neu warchodwyr wedi dod at ei gilydd yn y gegin mewn cynllun peilot i fwyta'n iach.

Mae'r rhaglen Dewch i Goginio gyda'ch Plentyn yn gwahodd rhieni, neiniau a theidiau neu warchodwyr a phlant pedair neu bump oed o Ysgol Bryn Deva yng Nghei Connah, Ysgol Gynradd Westwood ym Mwcle, Ysgol Bryn Coch yn yr Wyddgrug ac Ysgol Gwalchmai yn Ynys Môn i ddosbarthiadau coginio syml a hwyliog a sesiynau gweithgaredd corfforol.

Mae'r peilot, sy'n cael ei redeg gan gynorthwywyr dietetig o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr â chefnogaeth Gwasanaethau Hamdden, yn anelu at hyrwyddo arferion bwyta cadarnhaol, hybu gwybodaeth o fwyta'n iach a chodi hyder mewn paratoi bwyd fforddiadwy da, yn ogystal â hyrwyddo ffordd iach ac egnïol o fyw.   Darparwyd yr arian cychwynnol ar gyfer y prosiect peilot gan Glwstwr Meddygon Teulu De Sir y Fflint.   

Anogwyd plant ac oedolion i ddod ynghyd i greu prydau bwyd gan gynnwys nygets cyw iâr, pobi pasta, tsili a ryseitiau cawl cartref.

Daeth 29 o blant a 30 oedolyn i goginio yn y dosbarthiadau, a gynhaliwyd am 6 wythnos.

Dywedodd Claire O'Kane sy'n Ymarferydd Cynorthwyol Dieteteg, a drefnodd y dosbarthiadau yn Sir y Fflint:  "Y syniad oedd cael rhieni a'u plant i gael hwyl â bwyd a chreu prydau gan ddefnyddio cynhwysion iachus.  Roeddem eisiau iddyn nhw weld pa mor hawdd a hwyliog mae'n gallu bod i ddod at ei gilydd yn y gegin i wneud prydau bwyd sy'n faethlon, blasus a fforddiadwy."

"Mae problem fawr â bwyta'n iach ymysg grwpiau oedran ifanc, gyda chwarter y plant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew a llai na thraean y  plant yn dweud eu bod ynbwyta dogn o lysiau unwaith y diwrnod."

"Cafodd y plant a'r oedolion amser gwych, a gobeithio eu bod wedi darganfod y sgiliau a'r wybodaeth y maen nhw ei angen er mwyn parhau i goginio a bwyta'n fwy iach gartref a chael ffordd o fyw mwy egnïol."

Dywedodd un rhiant o Ysgol Gynradd Westwood:  "Mae'r cwrs coginio wedi bod yn llawer o help i fi.  Mae gen i fwy o hyder yn y gegin ac rydw i'n gallu coginio mwy gyda fy mab...[mae'r cwrs] wedi newid nifer o bethau rwy'n eu prynu o'r siopau.   Mae fy mab yn dweud wrth bawb y mae'n siarad â nhw am y pethau mae'n ei goginio ac yn gofyn i mi os ydyn ni am goginio bob diwrnod.   Mae o, a finnau, wrth ein bodd."

Nawr, mae dietegwyr yn ysgrifennu adroddiad i rannu darganfyddiadau'r peilot, gyda'r gobaith o sicrhau cyllid i gynnal mwy o ddosbarthiadau yn y flwyddyn ysgol newydd.

Dywedodd Anwen Weightman, sy'n Ymarferydd Cynorthwyol Dieteteg, a drefnodd y dosbarth yn Ynys Môn:  "Rydym wedi cael adborth gwych gan y teuluoedd a'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y rhaglen.  Trwy wneud coginio gyda'i gilydd yn weithgaredd hwyliog, gwerth chweil, rydym yn gobeithio y bydd y rhai a gymerodd ran yn teimlo eu bod yn cael eu hannog i ddatblygu arferion bwyta iach a threulio amser braf gyda'r teulu yn y gegin."