Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Gofal Critigol yn Wrecsam yn cynnig cymorth ychwanegol i gyn gleifion a'u teuluoedd

Mae tîm o nyrsys gofal critigol o Ysbyty Maelor Wrecsam yn rhoi cymorth ychwanegol i gleifion sy'n gadael yr ysbyty ar ôl gwella o COVID-19.

Mae'r Tîm Gofal Critigol Dilynol yn gweithio'n llawn amser ar yr Uned Gofal Critigol ac yn cynnig gwasanaeth dilynol i roi cymorth corfforol, seicolegol ac emosiynol pellach unwaith y bydd cleifion yn gadael yr ysbyty.

Cyn y pandemig, byddai'r tîm yn cynnal clinigau wythnosol ar gyfer cyn gleifion a theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth sy'n dod i delerau ag effeithiau corfforol a seicolegol hirdymor dwys sy'n gallu dilyn salwch critigol, yn aml.

Un cyn glaf sydd wedi derbyn gofal dilynol gan y tîm yw Wendy Allison, o Gei Connah, a fu yn yr ysbyty am bron i 10 wythnos ar ôl dal COVID-19.

Dywedodd: “Ddiwedd Ebrill, dechreuais deimlo'n eithaf sâl, roeddwn yn hynod fyr o wynt a bu'n rhaid i'm gŵr fffonio am ambiwlans yn y diwedd.

“Pan gyrhaeddais yr ysbyty, roedd yn amlwg fy mod yn sâl iawn ac aed â mi i'r Uned Gofal Critigol lle cefais fy rhoi ar beiriant anadlu ac arhosais ar yr uned am chwe wythnos.

“Nid ydw i'n cofio ryw lawer am fy amser yno hyd nes i mi ddod oddi ar y peiriant anadlu yn y pen draw a dechrau gwella, roedd yn gyfnod pryderus iawn i mi a'm teulu."

Gadawodd Wendy yr ysbyty ar 27 Mehefin a rhyw bedair wythnos yn ddiweddarach, derbyniodd ymweliad yn ei chartref gan Uwch Nyrs yr Uned Gofal Critigol, Sarah Anglesea a'r Uwch Nyrs Staff, Kate Sinclair, y gwnaeth y ddwy ofalu amdani yn ystod ei hamser ar yr uned.

Dywedodd Prif Nyrs Sarah: “Yn dilyn cyfnod o salwch critigol, mae'n gyffredin cael rhai problemau seicolegol, fel hunllefau, ôl-fflachiau, neu rai atgofion rhyfedd.

“Nid oes gan rai cleifion unrhyw atgof o'u harhosiad mewn gofal critigol. Yn aml, gall y problemau seicolegol hyn beri braw a gofid mawr.

“Mae'r Tîm Gofal Critigol Dilynol yn cysylltu â'n cleifion unwaith y byddant yn gadael yr ysbyty er mwyn trefnu apwyntiad gyda nhw os bydd angen.

“Gallwn weld p'un a oes angen cymorth seicolegol neu emosiynol pellach ac ateb unrhyw gwestiynau'n ymwneud â'r  cyfnod mewn Gofal Critigol na fyddant yn ei gofio, efallai."

Mae'r tîm hefyd wedi bod yn rhoi cymorth i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid oherwydd COVID-19 dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Caiff blychau atgofion eu darparu ar gyfer y teuluoedd hynny er mwyn rhoi cysur iddynt.

"Mae wedi bod yn hynod anodd i deuluoedd sydd wedi bod ag anwyliaid yn yr Uned Gofal Critigol dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

“Gan fod cyfyngiadau ar ymweld â'r ysbyty, yr ydym ni fel nyrsys wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau ein bod wedi cadw mewn cysylltiad agos â theuluoedd sydd ag anwyliaid ar ein huned. 

“Yn y diwedd, rydym yn meithrin perthynas â'n cleifion gan y byddant gyda ni am gyfnod hir, fel arfer,  ac felly, rydym yn teimlo ein bod yn dod i'w hadnabod yn eithaf da.

“Mae gweld Wendy gartref yn gwneud i ni deimlo'n falch ac mae'n braf gweld ei bod mor dda a'i bod yn parhau i wella," ychwanegodd Kate.

Mae Wendy yn awyddus i ddiolch i'r timau yn Ysbyty Maelor Wrecsam am y gofal a'r cymorth a gafodd.

“Bu'r staff yn wirioneddol anhygoel yn ystod fy nghyfnod yn yr ysbyty, roeddent mor garedig a gwnaethant bopeth yr oeddent yn gallu ei wneud i mi gan gadw mewn cysylltiad â'm teulu er mwyn rhoi diweddariad iddynt ar fy nghyflwr.

“Rwy'n meddwl bod y gwasanaeth dilynol y maent yn ei ddarparu'n ardderchog hefyd ac o fudd mawr i rywun fel minnau nad yw'n gallu cofio chwe wythnos o'm hamser ar Ofal Critigol.

“Mae'r ffaith bod y nyrsys yn ymweld â mi gartref i weld p'un a ydw i'n iawn yn rhoi sicrwydd i mi ac mae'n gyfle i mi ofyn unrhyw gwestiynau.

“Maent wedi bod yn wych, ni allaf ddiolch iddynt ddigon," ychwanegodd Wendy.