Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs ysbrydoledig yn cael ei chydnabod am ei hymroddiad i wasanaethau strôc

Nyrs ysbrydoledig yn cael ei chydnabod am ei hymroddiad i wasanaethau strôc

Mae nyrs o Wrecsam sydd wedi cael ei disgrifio fel arweinydd ysbrydoledig gan ei chydweithwyr, ac yn bencampwr ar gyfer gwasanaethau strôc wedi cael ei chydnabod gyda gwobr fawreddog.

Cafodd Lynne Hughes, Wobr Rhagoriaeth mewn Strôc yng Nghynadledd Strôc Cymru eleni.

Mae'r gwobrau yn anelu at gydnabod yr ymarferwyr hynny yng Nghymru sy'n darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion strôc.

Mae Lynne, sy'n gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi bod yn gyfrifol am godi proffil Gwasanaethau Strôc yng Ngogledd Cymru, ac arweiniodd yr ymgyrch Strôc 1000 o Fywydau, a recriwtiodd Nyrsys Strôc newydd yn llwyddiannus i weithio o fewn y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Judith Rees, Rheolwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Meddygaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a enwebodd Lynne am y wobr:  "Mae Lynne wedi bod yn arweinydd ysbrydoledig, gyda'i chyfraniad arbennig a'i hegni wedi arwain at welliannau yn y Gwasanaethau Strôc yng Ngogledd Cymru.

"Roedd Lynne yn ymroddedig i'r Gwasanaethau Strôc yn gynnar iawn yn ei gyrfa fel Prif Nyrs Ward, ac yna Metron.

"Cafodd ei phenodi yn Gydlynydd Strôc yn 2009, yn ystod amser pan roedd y gwasanaeth angen ei foderneiddio a'i wella.

"Gweithiodd Lynne ar ei phen ei hun tan 2015, pan arweiniodd ei dyfalbarhad i wneud cais am rolau Cydlynydd Strôc ychwanegol yn Wrecsam at ddau benodiad pellach."

O ganlyniad i waith Lynne, mae cleifion strôc yn awr yn cael gofal mwy amserol oherwydd yr addysg a hyfforddiant ymwybyddiaeth y mae wedi eu datblygu a'u gweithredu ar draws Gogledd Cymru.

Mae angerdd Lynne at wella'r gwasanaeth hwn wedi arwain at sefydlu rhaglenni addysg a hyfforddiant strôc ar gyfer Meddygon Teulu, staff Gofal Cychwynnol, staff meddygol a nyrsio ar draws ystod o arbenigeddau ysbyty ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae hyn wedi arwain at gleifion yn derbyn gofal mwy amserol pan eu bod wedi cael strôc oherwydd yr addysg a hyfforddiant ymwybyddiaeth sydd wedi'u cyflwyno gan Lynne.

Ychwanegodd Jill Newman, Cyfarwyddwr Perfformiad yn BIPBC, a gefnogodd enwebiad Lynne: "Mae Lynne wedi bod yn arweinydd eithriadol o ran darpariaeth Strôc a gwelliannau yng Ngogledd Cymru, ac mae'n unigolyn ysbrydoledig ac sy’n cael ei pharchu’n fawr gan staff clinigol ac anghlinigol ledled y Bwrdd Iechyd.

"Mae ei rôl ar draws Cymru wedi bod yn hanfodol o ran gwelliannau Strôc ar gyfer cleifion."

Dywedodd Lynne ei bod yn anrhydedd iddi dderbyn y gydnabyddiaeth arbennig hon, ond disgrifiodd y wobr fel "ymdrech tîm'.

Dywedodd: "Hoffwn ddiolch i Judith am fy enwebu am y wobr hon, sy'n fraint ac yn anrhydedd i mi ei derbyn.

"Rwyf wedi mwynhau llawer o flynyddoedd hapus yn gweithio o fewn Gwasanaethau Strôc yn Wrecsam, gyda thîm gwych sy'n rhannu'r wobr hon gyda mi.