Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs o Tywyn yn sefyll i ddweud bod coesau'n bwysig

Nyrs o Tywyn yn sefyll i ddweud bod coesau

Mae Nyrs o Dywyn yn codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd gofalu am eich coesau yn ei chymuned.

Pob blwyddyn, amcangyfrifir bod dros filiwn o bobl yn y DU yn dioddef o gyflyrau'r coesau a'r traed megis wlserau a llid yr isgroen.

Mynychodd Susan Griffith, Nyrs Staff Cymuned, gyfarfod Fforwm Pobl Hŷn Tywyn yn ddiweddar i godi ymwybyddiaeth am arwyddion a symptomau o ran problemau gyda rhan isaf y goes a'r droed.

Mae Susan, sydd wedi cwblhau Cwrs Rheoli Wlserau’r Goes yn dweud ei bod yn bwysig i'r cyhoedd fod yn ymwybodol o'r newidiadau i'w coesau wrth iddynt fynd yn hŷn er mwyn lleihau'r siawns y bydd wlserau a chyflyrau eraill yn datblygu.

Dywedodd: "Mae ein coesau a'n traed yn gwneud llawer i ni ond yn aml nid ydynt yn cael y sylw maent yn eu haeddu.

“Mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw golwg ar rannau isaf ein coesau a'n traed.  Gall hyd yn oed y newid lleiaf i'r ffordd maent yn edrych neu deimlo fod yn arwydd o rywbeth mwy difrifol.

"Nid yn unig eich coesau a'ch traed all gael eu heffeithio gan gyflyrau'r coesau a'r traed. Gallent gael effaith fawr ar eich bywyd pob dydd.

"Gall rhywbeth syml fel ergyd bach droi yn friw sydd ddim yn gwella neu wlser a all fod yn boenus iawn ac effeithio ar eich gallu i wneud pethau megis mynd i'r gwaith neu gyflawni tasgau pob dydd. Gall briwiau fel hyn hefyd gael effaith mawr ar eich iechyd meddwl a'ch lles.

"Y newyddion da yw gall y rhan fwyaf o broblemau'r goes a'r droed wella os ydynt yn cael triniaeth yn gynnar."

Am fwy o wybodaeth a chyngor ar gyflyrau'r goes a'r droed ewch ar www.legsmatter.org