Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o glinigau brechu symudol i agor yn Sir y Fflint a Wrecsam

Diweddariad – bydd clinig symudol hefyd ar gael yn Tesco Extra, Ffordd Cilgant, Wrecsam, LL13 8HF ddydd Gwener 13 Awst rhwng 9.30am a 3pm.

Diweddariad – bydd clinig symudol hefyd ar gael yn Fflint – ym maes Parcio Stryd y Capel dydd Sadwrn 14 Awst rhwng 10am a 4pm.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal mwy o glinigau brechu symudol ledled Sir y Fflint a Wrecsam dros y pythefnos nesaf.

Bydd y clinigau symudol ar agor yn y lleoliadau canlynol ar sail galw heibio heb unrhyw apwyntiad:

  • Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown – ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf, 9.30am - 2.30pm.
  • Partneriaeth Parc Caia – ddydd Llun 2 Awst, 10am-5pm.
  • Ysbyty Cymunedol Treffynnon – dydd Sadwrn 7 Awst.
  • Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy – dydd Mawrth 10 Awst, 12pm – 6pm. (To be confirmed, check here for updates).

Bydd y ddau frechlyn yn cael eu cynnig yn y clinigau symudol ar yr ystadau diwydiannol. Mae'r clinigau ar agor i unrhyw un nad yw wedi cael ei frechlyn cyntaf, neu ei ail, tra bo stoc ar gael. Mae'r Bwrdd Iechyd yn annog yn arbennig y rhai 30-39 oed i alw heibio a chael eu hamddiffyn rhag COVID-19.

Yng Ngogledd Cymru mae 72% o bobl 30-39 oed wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn, a lleiafswm targed y Bwrdd Iechyd ar gyfer pob grŵp oedran yw 75%, felly mae angen i fwy o bobl yn y grŵp oedran hwn ddod ymlaen i gael eu brechu i helpu i gyflawni lefel o ddiogelwch cymunedol i helpu i ddychwelyd i fywyd normal.

Mae tystiolaeth ar fuddion brechu yn glir. Mae derbyniadau ysbytai yn ymwneud â COVID-19 yng Nghymru i lawr oddeutu 80% o'i gymharu â'r ail don, tra bod marwolaethau tua 90% yn is.

Os yw chwe wythnos wedi mynd heibio ers i chi gael eich dos cyntaf o'r brechlyn Pfizer, neu os yw wyth wythnos wedi mynd heibio ers i chi gael eich dos cyntaf o Oxford-AstraZeneca, gallwch fynd i un o'r clinigau hyn, neu drefnu eich ail ddos o'r un brechlyn gan ddefnyddio ein gwasanaeth trefnu ar-lein.

Dywedodd Tom Halpin, Arweinydd Rhaglen Frechu Covid-19 ar gyfer y Dwyrain: “Rydym yn falch iawn o ddod â brechiadau i’r ardaloedd hyn lle nad yw pobl efallai wedi cael cyfle i ymweld â’n canolfannau brechu. Rydym yn gofyn i unrhyw un yn yr ardaloedd hyn nad ydynt wedi cael eu dos cyntaf, neu'r ail ddos, i alw heibio i gael eu pigiad. Byddwn hefyd yn fwy na pharod i siarad ag unrhyw un a allai fod â phryderon neu gwestiynau am y brechlynnau, gallwn drafod unrhyw bryderon heb unrhyw bwysau arnoch i gael y brechiad y diwrnod hwnnw.

“Hoffem hefyd annog cyflogwyr ar draws yr ystadau diwydiannol hyn i adael i’w staff ddod i’r clinig symudol i gael eu brechiadau er mwyn helpu i amddiffyn eu holl staff, cydweithwyr a’r gymuned ehangach.”

Gall holl drigolion Gogledd Cymru 18+ oed hefyd drefnu ar-lein ar gyfer y canolfannau brechu (mae slotiau newydd yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd), neu ffonio’r Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004 i drefnu apwyntiad.