Neidio i'r prif gynnwy

Metron o Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug yn ymddeol ar ôl 46 mlynedd o wasanaeth

Metron o Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug yn ymddeol ar ôl 46 mlynedd o wasanaeth

Daeth staff yn Ysbyty'r Wyddgrug ynghyd am de parti i ffarwelio â Metron Julie Mackreth ac i ddymuno yn dda iddi ar gyfer ei hymddeoliad.

Mae Julie, sy'n 64 mlwydd oed yn gadael y GIG ar ôl 46 mlynedd o wasanaeth. Rhoddodd Julie ei gyrfa i nyrsio yn y gymuned ac fe weithiodd yn helaeth yn ysbyty cymuned y Waun, ysbyty Penley ac ysbyty'r Wyddgrug.

Dywedodd Julie "Mi wnaf fethu fy nghydweithwyr. Maent wedi bod yn fwy na hynny, maent wedi bod yn ffrindiau ac yn deulu hefyd ac rwy'n lwcus iawn gan fy mod wedi mwynhau fy swydd bob amser ac fe wnaf fethu'r GIG yn fawr. Rwyf wedi gweld gymaint o newid dros y blynyddoedd ac mae wedi bod yn gyffrous iawn.

"Fy mwriad yw mwynhau amser gyda fy nheulu a mynd ar wyliau. Rwyf hefyd yn bwriadu aros yn rhan o'r GIG ac rwyf eisiau gwirfoddoli a helpu i sefydlu bar te gyda'r Robiniaid yn ysbyty'r Waun."

Dywedodd Jane Jones, cyn nyrs arweiniol ar gyfer ysbytai cymuned yn y Dwyrain, "Mae Julie yn gweithio'n galed, yn ddymunol a phob amser yn awyddus i helpu eraill. Mae pob amser wedi bod yn ysgogol ac mae wir yn meddwl am y cleifion a'r staff. Bydd colled ar ei hôl."