Neidio i'r prif gynnwy

Menter i leihau risg o glotiau gwaed ar gyfer cleifion Ysbyty Glan Clwyd yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol

Menter i leihau risg o glotiau gwaed ar gyfer cleifion Ysbyty Glan Clwyd yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol

Mae ymagwedd newydd tuag at osgoi clotiau gwaed i gleifion yn Ysbyty Glan Clwyd wedi'i chydnabod ar ffurf achrediad cenedlaethol uchel ei barch.

Mae cyflwyno rhaglen teithiau crwydr, wedi'i chynnal gan arbenigwyr mewn atal clotiau gwaed, sy'n annog staff i gynnal asesiadau risg ar gleifion, wedi arwain at leihad o 88 y cant mewn thrombosis sy'n codi wrth aros yn yr ysbyty.

O ganlyniad i'r gwaith gwella, mae Ysbyty Glan Clwyd wedi ennill Statws Canolfan Enghreifftiol VTE, sef achrediad cenedlaethol sy'n cydnabod ymrwymiad y sefydliad i atal clotiau gwaed.

Mae'r gwaith, a wneir fel rhan o raglen ansawdd a gwella'r Bwrdd Iechyd, wedi cyrraedd y rhestr fer hefyd yng Ngwobr GIG Cymru yng nghategori Gwella Diogelwch Cleifion a derbyniodd ganmoliaeth uchel yng ngwobr HSJ yn ddiweddar am ailgynllunio'r Gwasanaeth Llym.

Mae thrombosis yn cyfeirio at ffurfio clotiau a allai fod angheuol, sy'n gallu ffurfio yn y rhedwelïau (thrombrosis rhedwelïol) neu'r gwythiennau (thrombosis gwythiennol). Gall clotiau gwaed yn y rhedwelïau achosi trawiad y galon a strôc, a gall clotiau gwaed yn y gwythiennau arwain at farwolaeth gan eu bod yn dal yn rhydd ac yn rhwystro cyflenwad y gwaed i'r ysgyfaint.

Roedd y prosiect yn cynnwys teithiau crwydr thrombopropffylacsis yn cael eu cyflwyno i'r ysbyty. Mae'r archwiliadau heb eu cyhoeddi'n cynnwys nyrs, llawfeddyg a fferyllydd yn cynnal gwiriadau ar ddogfennaeth unrhyw glaf ym mhob rhan o'r ysbyty.

Mae'r archwiliadau wythnosol yn gwirio p'un a yw asesiadau risg wedi'u cynnal, a yw'r presgripsiynau cywir ar gyfer y feddyginiaeth yn cael eu cynnig ac yn cynnwys mesurau ymarferol, fel cynnig hosanau gwrthembolig.

Mewn achosion lle nad yw asesiad risg wedi'i gwblhau, mae'r tîm yn cynnig cyngor ac arweiniad i staff ar sut gallant amddiffyn yn well rhag clotiau gwaed y gellid eu hatal.

Mae'r teithiau crwydr, a gyflwynwyd ym mis Medi 2017, wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr asesiadau risg a gwblhawyd, ac mae cydymffurfiaeth wedi cynyddu o 34 y cant i 100 y cant. Dim ond pedwar achos o thrombosis yn yr ysbyty y gellid fod wedi'u hosgoi a gafodd eu cofnodi ar gyfer y 16 mis yn dilyn cyflwyno'r teithiau crwydr, o gymharu â 22 yn ystod yr wyth mis cyn y teithiau crwydr.

Cafodd Christine Welburn, Nyrs Arbenigol Thrombopropffylacsis a Melissa Baker, y syniad o ddatblygu'r system hap-wiriadau newydd, ynghyd â Mr Amir Hanna, Arweinydd Clinigol Thrombopropffylacsis, a Haimon Chaudhry, Fferyllydd Arweiniol Llawfeddygaeth.

Dywedodd Christine: “Ar y dechrau, gwelom fod cydymffurfiaeth o ran cynnal asesiadau risg mor isel â 34 y cant, ac roedd gwir angen i ni wella hyn.

“Mae'r canlyniadau rydym wedi'u cael yn siarad drostynt eu hunain. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r gyfradd isaf erbyn hyn o thrombosis yn yr ysbyty y gellid ei osgoi."

Ers hynny, mae'r teithiau crwydr wedi'u cyflwyno yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac mae ysbytai eraill yng Nghymru ac yn Lloegr wedi cynnal yr ymchwil er mwyn dechrau eu teithiau crwydr eu hunain.

Gwnaeth Melissa Baker, Rheolwr Arweiniol Ansawdd a Thrawsnewid, gefnogi'r tîm gyda'u prosiect gwella ansawdd.

Dywedodd Mel: “Rydym bellach yn ei ddefnyddio fel meincnod i ddangos i eraill beth y gellir ei gyflawni gyda'n rhaglen gwella ansawdd.

“Y llwyddiant mwyaf fu gallu rhannu gyda staff mewn amser real sut gallant wella eu harfer.

“Trwy fabwysiadu ymagwedd sy’n helpu i addysgu a gwella ansawdd y gofal a gynigiwn, mae'r cyfranogwyr wir wedi ymroi i'r rhaglen."
Dywedodd yr Athro Roopen Arya, Cyfarwyddwr, Canolfan Thrombosis King's ac Arweinydd Rhwydwaith Canolfan Enghreifftiol VTE y GIG:

“Mae atal VTE yn flaenoriaeth glinigol fawr i'r GIG a'i bartneriaid ac mae rhwydwaith cenedlaethol Canolfan Enghreifftiol VTE yn ymrwymedig i hybu arfer gorau o ran ataliaeth a gofal VTE.

“Roedd yr ymrwymiad i atal VTE ac ansawdd gwasanaethau VTE a gyflwynwyd gan Melissa Baker a Christine Welburn yn drawiadol iawn. Bydd eich sefydliad yn ychwanegiad teilwng at y rhwydwaith enghreifftiol VTE cenedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae thrombosis yn datblygu a sut i'w atal, gweler https://www.thrombosisuk.org/ lle byddwch yn gweld gwybodaeth ddefnyddiol.