Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg o Ysbyty Gwynedd yn ymgymryd â her driphlyg i godi arian ar gyfer ward canser

Meddyg o Ysbyty Gwynedd yn ymgymryd â her driphlyg i godi arian ar gyfer ward canser

Mae meddyg yn Ysbyty Gwynedd wedi codi bron i £4,000 ar ôl ymgymryd â her driphlyg i godi arian er budd cleifion canser.

Cwblhaodd Dr Sally Evans, Haematolegydd Ymgynghorol sy'n gweithio ar Ward Alaw, ei her yn ystod Gŵyl ZipRoc dros y penwythnos.

Dechreuodd drwy eillio ei gwallt yn ddewr yn gyhoeddus ar y llwyfan, yna taith gerdded 20km, a gorffen gyda Velocity 2 Zip World, y llinell sip cyflymaf yn y byd.

Dywedodd Dr Evans, ei bod yn gobeithio y bydd ei her nid yn unig yn codi arian hanfodol, ond hefyd yn ysbrydoli ei chleifion. 

Dywedodd: "Nid yw'n anarferol i mi roi newyddion drwg i rywun, yn anffodus mae'n dod fel rhan o'r swydd.

"I lawer, dynion a merched, un o'r cwestiynau mawr rydw i'n eu cael ydi "fydda i'n colli fy ngwallt?'

"I lawer, mae hwn yn ganlyniad anochel o'u triniaeth, nid oes ganddynt ddewis, gall hyn fod yn dorcalonnus, ac achosi poen seicolegol- i rai mae hyn yn waeth na'r driniaeth ei hun.

"Rwy'n adnabod llawer o ferched hardd o bob oed sy'n gwrthod cael eu gweld yn gyhoeddus heb eu wigiau, neu hyd yn oed fynd allan yn eu gerddi eu hunain hebddo.

"Er mwyn ceisio cefnogi cleifion presennol a'r dyfodol sy'n dechrau ar eu triniaethau cemotherapi sy'n achosi iddynt golli eu gwallt, rwy'n dewis ymuno â nhw, ac rwy'n gobeithio ysbrydoli un neu ddau i fynd allan heb wig."

Mae Dr Evans wedi rhoi ei gwallt i Elusen Little Princess sy'n darparu wigiau gwallt go iawn i blant a phobl ifanc sy'n colli eu gwalltiau.

"Hoffwn ddiolch i bawb am eu rhoddion hael, a negeseuon hyfryd o gefnogaeth.

"Roedd yn her wych i'w wneud, ac mae'n wych faint sydd wedi cael ei godi a fydd yn mynd tuag at wneud y gofal y mae cleifion yn ei gael yn hyd yn oed gwell ar Ward Alaw" ychwanegodd.

Roedd Dr Evans yn un o'r 80 o unigolion a gymerodd ran yn her Velocity 2 ZipWorld, a helpodd i godi £15,000 ar gyfer gwasanaethau ar draws y Bwrdd Iechyd ar ran Awyr Las.

Codwyd cyfanswm o dros £25,000 yn y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau iechyd lleol a phrosiectau gofal canser. 

Gallwch dal noddi Dr Evans drwy ymweld â https://www.justgiving.com/fundraising/sally1506