Neidio i'r prif gynnwy

Mam o Sir y Fflint yn canmol gwasanaeth iechyd meddwl 'sy'n achub bywyd' a'i helpodd yn ystod ei horiau tywyllaf

02.03.22

Mae mam o Sir y Fflint a geisiodd ladd ei hun ar ôl cael anawsterau a thrawma cam-drin rhywiol wedi talu teyrnged i wasanaeth cymorth iechyd meddwl ‘sy'n achub bywyd’.

Mae Natalie Johnson, o Dreffynnon, ymhlith miloedd o bobl ar draws Gogledd Cymru sydd wedi derbyn cymorth gan FEDRA i yn y blynyddoedd diwethaf.

Nod y fenter, a gyflwynir fel partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac elusennau iechyd meddwl, yw ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad at yr help sydd ei angen arnynt, heb fod angen cyfeiriad gan feddyg teulu.

Darperir cymorth ar-lein, dros y ffôn ac mewn 12 Hwb Cymunedol FEDRA i ar draws y rhanbarth.

Mae Natalie, 39, sy’n fam i ddau o blant, yn dweud ei bod mewn ‘lle tywyll iawn’ yn 2019, ar ôl gadael ei swydd oherwydd afiechyd a’i bod yn cael trafferth ymdopi ag atgofion o’r gamdriniaeth a gafodd yn ystod ei blynyddoedd iau.

“Cyrhaeddodd y pwynt lle nad oeddwn i'n dymuno bod ar y ddaear hon mwyach,” esboniodd.

“Doeddwn i ddim yn gallu gweld unrhyw olau ym mhen draw'r twnnel ac roedd yn teimlo bod y diafol ar fy ysgwydd yn dweud wrthyf am ddod â fy mywyd fy hun i ben.  Un noson, fe geisiais wneud hynny yn y coed ger fy nghartref.

“Aethpwyd â mi i Ysbyty Glan Clwyd a chyn cael fy rhyddhau cefais fy asesu gan nyrs iechyd meddwl a’m cyfeiriodd at y gwasanaeth FEDRA i, ac ar gyfer therapïau siarad.

“Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai hynny'n gweithio, nac y byddent yn fy ffonio mor fuan.  Ond yn fuan ar ôl cyrraedd adref o'r ysbyty cefais alwad ffôn gan dîm FEDRA i.  Cefais fy rhyfeddu eu bod wedi cysylltu mor gyflym!

“Cefais gefnogaeth ddwywaith yr wythnos dros fisoedd lawer ac fe wnaeth wahaniaeth enfawr. Mae FEDRA i wedi rhoi cymaint o gymhelliant i mi wneud pethau gwahanol a chadw fy hun ar y trywydd iawn.  Mae wedi achub fy mywyd ac wn i ddim ble buaswn i heb hynny.

“Fe helpodd hefyd i fy mharatoi’n dda iawn at therapi siarad, sydd wedi bod yn help mawr.

“Dros amser, wrth i mi ddechrau teimlo'n well, fe wnaethom leihau amlder y galwadau yn raddol.  Er nad wyf bellach yn derbyn cymorth gan iCAN, mae'n gysur gwybod eu bod ar gael trwy gyfrwng e-bost neu alwad ffôn.

“Rydw i wedi gweithio'n galed i unioni pethau gyda phobl y gwnes i eu gofidio yn ystod fy nghyfnod tywyll. Mae’r cymorth rydw i wedi’i dderbyn hefyd wedi fy helpu i siarad yn fwy agored gyda fy mhlant (20 ac 16 oed) am iechyd meddwl ac i wneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn hefyd.”

Mae Natalie wedi rhannu ei stori mewn ymgais i annog eraill sy'n cael trafferth gofyn am gymorth.

Dywedodd: “Rwy'n teimlo cymaint yn well ynof fy hun nawr ac os gallaf helpu un person yn unig trwy rannu fy stori, bydd hynny'n werth chweil. 

“Fy neges i unrhyw un sy'n cael trafferth yw peidiwch â straffaglu ac aros yn y tywyllwch fel y gwnes i.  Cysylltwch â FEDRA i oherwydd mae hynny wir yn gweithio.”

Mae’r Seiciatrydd Ymgynghorol Dr Alberto Salmoiraghi, Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC, yn annog mwy o bobl i fanteisio ar y cymorth cynnar hawdd ei gyrchu a ddarperir yn Hybiau FEDRA i.

Dywedodd: “Bydd pawb yn ei chael hi'n anodd o bryd i'w gilydd ac mae'n bwysig gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Beth bynnag sy'n eich poeni - mae cymorth ar gael bob amser i'ch helpu i ddychwelyd i'r trywydd iawn.

“Byddwn yn annog pobl i ymweld â’u Hwb FEDRA i lleol yn eu cymuned a rhoi cynnig arni.  Mae’r tegell ymlaen bob amser a byddwch yn cael croeso cynnes gan y tîm cyfeillgar a phrofiadol o staff a gwirfoddolwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael drwy FEDRA i, trowch at: https://bipbc.gig.cymru/cyngor-iechyd/hwb-iechyd-meddwl/fedrai/