Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ffliw yn Lladd - Rhod Gilbert yn Annog Staff Cartrefi Gofal i Gael eu Pigiad

Mae'r Ffliw yn Lladd - Rhod Gilbert yn Annog Staff Cartrefi Gofal i Gael eu Pigiad.

 

Mae'r digrifwr o Gymru, Rhod Gilbert, yn annog staff cartrefi gofal i gael eu brechlyn ffliw ar ôl gweld yr effaith ddinistriol y gall y firws ei chael.

 

 Gwelodd Rhod pa mor bwysig yw gwaith staff cartrefi gofal a gofalwyr yn y cartref wrth ofalu am y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau o'r gyfres deledu Work Experience y ffilmiodd.  Y bobl hynny sydd bellach mewn risg ddifrifol gyda'r ffliw a COVID-19 yn cylchredeg.

Dywedodd: "Dim ond cipolwg a gefais, ond roeddwn i wir yn gwerthfawrogi'r sgil a'r angerdd, yr ymrwymiad a'r cariad yr ydych yn ei ddangos bob dydd wrth wneud eich gwaith."

Dyma pam mae Rhod yn cefnogi ymgyrch y ffliw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i annog mwy o staff cartrefi gofal a gofalwyr yn y cartref i gael brechlyn y ffliw eleni.

Dywedodd Cydlynydd Imiwneiddio Betsi Cadwaladr, Leigh Pusey: "Mae'n bwysig iawn i ofalwyr gael eu brechu yn erbyn y ffliw.  Rydym yn gwybod am yr effaith ddinistriol mae COVID-19 wedi ei gael ar gartrefi gofal, a pha mor hawdd mae'n lledaenu ymysg eu cleifion bregus. Nid yw firws y ffliw yn wahanol. 

"Yr amddiffyniad mwyaf effeithiol y gall gofalwyr ei gynnig i'w hunain a'u cleifion, yw brechlyn y ffliw."

Y newyddion da yw bod mwy na 2,500 o weithwyr yn y cartref a staff nyrsio a gofal cymdeithasol o fewn cartrefi gofal wedi cael eu brechlyn yn barod, o'r rhai hynny, ni wnaeth 62% ohonynt gael y pigiad y llynedd. 

Dywedodd Arweinydd Strategol ar gyfer Fferyllfa Cymunedol, Adam Mackridge: "Mae'r rhain yn niferoedd addawol. Heb os nac oni bai, mae effaith COVID-19 ar Gartrefi Gofal wedi chwarae ei ran yn y niferoedd o staff sy'n cael brechlyn y ffliw eleni, ond mae dal angen mwy o bobl i sicrhau eu bod yn cael yr amddiffyniad pwysig hwn.

"Eleni, rydym wedi cyflwyno dull "cyfeillio" ble bydd cartrefi gofal yn cael eu rhoi mewn partneriaeth â fferyllfa gymunedol leol, gan ei gwneud hi'n haws i ofalwyr gael mynediad at frechlyn."

Wrth i gyflwyniad brechlyn llwyddiannus COVID-19 a fydd wedi ei brofi'n ddiogel agosau, mae gofalwyr ar draws Gogledd Cymru sydd heb gael eu brechu rhag y ffliw eto'n cael eu hannog i gael y pigiad cyn gynted â phosib.

Er mwyn dod o hyd i fwy o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer brechlyn y ffliw, ewch i adran y ffliw ar ein gwefan (https://bcuhb.nhs.wales/health-advice/immunisations/flu/)