Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysbyty Gwynedd yn perfformio ei Lawdriniaeth Neffrectomi Laparosgopig gyntaf yn llwyddiannus

27.01.2022

Mae dynes o Wrecsam wedi canmol ei thîm llawfeddygol yn Ysbyty Gwynedd ar ôl iddynt dynnu ei haren ganseraidd yn llwyddiannus gan ddefnyddio llawdriniaeth twll clo.  

Tan yn ddiweddar, dim ond yn Ysbyty Glan Clwyd y perfformid Llawfeddygaeth Neffrectomi Laparosgopig oherwydd problemau capasiti.  Mae'r gwasanaeth hwn bellach wedi ei ymestyn i Ysbyty Gwynedd ar gyfer cleifion ar draws Gogledd Cymru y mae angen y driniaeth hon arnynt. 

Mae Neffrectomi Laparosgopig yn cael ei berfformio o dan anesthetig cyffredinol.  Gwneir tri thoriad ‘twll clo’ bach yn yr abdomen i ddarparu mynediad ar gyfer offer llawfeddygol a ddefnyddir i ddatgysylltu’r aren, clymu pibellau gwaed a thynnu’r aren trwy glwyf llawfeddygol bach.

Mae manteision y dechneg hon dros lawdriniaeth agored draddodiadol yn cynnwys arhosiad byrrach yn yr ysbyty ac amser adfer cyflymach, llai o boen a gwaedu ar ôl y llawdriniaeth a llai o greithiau. 

Byddai mwyafrif y cleifion ar draws Gogledd Cymru wedi cael eu hanfon i ysbytai yng Ngogledd Orllewin Lloegr a Llundain yn flaenorol ar gyfer Neffrectomi Laparoscopig. 

Marie Leach, o Wrecsam, oedd y claf cyntaf i gael y llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd. 

Ymwelodd y ddynes 56 oed â’i meddyg teulu i ddechrau ar ôl iddi brofi poen stumog difrifol a chafodd ei chyfeirio am sgan yn Ysbyty Maelor Wrecsam.  Roedd y sgan yn dangos màs annormal ar ei haren ac argymhellodd ei llawfeddyg, Mr Mohamed Abdulmajed, lawdriniaeth i'w thynnu.

Dywedodd: “Ar adeg y sgan dywedwyd wrthyf ei bod yn bosibl y byddai angen i mi fynd i Lundain i gael y llawdriniaeth felly roeddwn yn falch iawn pan ddywedwyd wrthyf y gallwn ei chael yng Ngogledd Cymru. 

“Er fy mod yn byw yn Wrecsam, roedd yn llawer agosach mynd i Fangor a heb fod yn rhy bell i fy ngŵr ddod i fy nôl.  Mae’n wych bod y llawdriniaeth hon bellach wedi’i hymestyn i ysbyty arall fel y gall mwy o gleifion ei derbyn yng Ngogledd Cymru .”

Dywedodd y Llawfeddyg Oncoleg Wrolegol a Pelfig Ymgynghorol, Mr Abdulmajed, a ailgyflwynodd y gwasanaeth systectomi radical (llawdriniaeth i dynnu'r bledren wrinol oherwydd canser) yng Ngogledd Cymru yn 2020:  “Rydym wedi bod yn datblygu ein gwasanaethau Wroleg ar draws Gogledd Cymru ac roedd ailgyflwyno llawdriniaeth canser y bledren fawr yn Ysbyty Gwynedd yn gam mawr ymlaen ac yn llwyddiant profedig.

“Rydym hefyd yn gweld tua 15 i 20 o gleifion y flwyddyn y mae arnynt angen Neffrectomi Laparosgopig sy'n cael eu hanfon i Lundain i gael eu llawdriniaeth.

“Nawr rydym yn gallu cynnig y llawdriniaeth hon mewn un arall o’n hysbytai ac mae hyn yn golygu bod mwy o gleifion bellach yn gallu cael eu llawdriniaeth yn agosach i’w cartref a chael mynediad at yr un tîm arbenigol a gynhaliodd y llawdriniaeth honno ar gyfer eu hapwyntiadau dilynol a gofal parhaus.

“Mae’r llawdriniaeth hon ar hyn o bryd o dan gyfnod o fentoriaeth uniongyrchol, ac roeddwn yn falch o gael cwmni’r Athro Philip Cornford o Ysbytai Brenhinol Lerpwl sydd yno i gynorthwyo os oes angen. 

“Mae llawdriniaeth laparosgopig a llawdriniaeth sy'n creu archoll mor fach â phosib yn darparu llawer o fuddion gan gynnwys arhosiad byrrach yn yr ysbyty a’r gallu i ddychwelyd i weithgareddau arferol yn gyflymach, ac yn achos Marie, roedd hyn yn sicr yn fuddiol oherwydd roedd yn dymuno dychwelyd i redeg ei chaffi prysur cyn gynted â phosibl.”

Dywedodd Marie, sy'n rhedeg caffi Fresh and Tasty yng Ngresffordd, ei bod wrth ei bodd gyda'i hadferiad yn dilyn y llawdriniaeth. 

“Mae fy nghyfnod adfer wedi bod yn wych. O fewn pythefnos, roeddwn yn ôl yn y gwaith ar ddyletswyddau ysgafn a nawr rwy'n ôl i amser llawn yn dilyn gwyliau'r Nadolig.

“Ni allaf ddiolch digon i’r tîm yn Ysbyty Gwynedd am eu gwaith gwych, roeddwn yn teimlo mewn dwylo diogel iawn trwy gydol yr amser roeddwn i yno,” ychwanegodd.  

Dywedodd Mr Kyriacos Alexandrou, Arweinydd Clinigol Wroleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:  “Rwy’n croesawu cyflwyno'r gwasanaeth hwn yn Ysbyty Gwynedd, a hoffwn ddiolch i Mr Abdulmajed sydd, trwy ei ddyfalbarhad a'i benderfynoldeb, wedi sefydlu’r gwasanaeth lleol hwn a fydd yn gwella gofal canser ar gyfer holl boblogaeth Gogledd Cymru.”