Neidio i'r prif gynnwy

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n uno â'r GIG i annog y cyhoedd i aros gartref ac achub bywydau

Mae Heddlu Gogledd Cymru a'r GIG wedi dod at ei gilydd cyn penwythnos y Pasg i annog y cyhoedd i aros gartref ac achub bywydau a helpu i amddiffyn y GIG.

Fel arfer, byddech yn gweld teulu a ffrindiau'n treulio amser yn y nifer o leoliadau agored sydd ar gael ar draws Gogledd Cymru dros wyliau'r Pasg.

Fodd bynnag, yn y cyfnod digynsail hwn, anogir y cyhoedd i barhau i ddilyn y mesurau newydd sydd wedi'u rhoi ar waith gan y llywodraeth o ganlyniad i achosion o COVID-19.

Dywedodd Carl Foulkes, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: "Yn draddodiadol yn ystod cyfnod y Pasg, mae'n adeg prysur iawn yng Ngogledd Cymru ac fel arfer rydym yn croesawu llawer o ymwelwyr i'r ardal.

"Fodd bynnag, oherwydd yr her rydym yn ei hwynebu yn ystod y pandemig COVID-19 hwn, ein neges i'r cyhoedd yw aros gartref a helpu i amddiffyn ein GIG yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Rydym i gyd eisiau atal y Coronafirws rhag lledaenu ond mae angen i bawb chwarae eu rhan er mwyn gwneud i hyn ddigwydd.

"Bydd ein swyddogion yr heddlu yn mynd o gwmpas yn patrolio ar draws cyfnod y Pasg, ar ein ffyrdd ac yn ein cymunedau prysur, yn ymgysylltu â'r cyhoedd ac yn lledaenu'r neges.

"Fodd bynnag, ble nad yw pobl yn cydymffurfio, byddwn yn cyfeirio pobl i fynd adref, ac, os oes angen, byddwn yn rhoi dirwy."

Er bod canllawiau'r llywodraeth wedi bod ar waith ers bron i dair wythnos, mae lleiafrif bach yn anwybyddu'r rheolau hyn o hyd.

Dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru:  "Fy neges yw i bawb aros gartref i helpu i achub bywydau, mae'r mwyafrif yn cadw at y rheolau hyn ond yn anffodus mae lleiafrif yn anwybyddu canllawiau'r llywodraeth o hyd.

"Mae'n bwysig iawn bod y cyhoedd yn chwarae eu rhan drwy aros gartref a hefyd i annog eu teulu a'u ffrindiau i wneud yr un fath."

Ychwanegodd Dr Richard Griffiths, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys o Ysbyty Gwynedd: "Rydym yn gwerthfawrogi bod pawb eisiau manteisio ar y tywydd cynhesach diweddar ac ymweld â thraethau a mynyddoedd Gogledd Cymru.

"Ond rŵan, mae angen i bawb ddilyn cyngor y llywodraeth, sydd wedi'i roi ar waith i amddiffyn y GIG ac yn y pen draw, i achub bywydau.

"Dyma'r peth gorau allwch chi ei wneud er lles eich iechyd eich hun, iechyd eich teulu ac aelodau mwy bregus ein cymunedau.

"Bydd y traethau a'r mynyddoedd yng Ngogledd Cymru yma o hyd pan fydd hyn drosodd, ac rydym eisiau i nifer ohonom fod yma i'w mwynhau gyda'n gilydd, felly rwy'n annog pawb i wrando ar ganllawiau'r llywodraeth ac aros gartref."