Neidio i'r prif gynnwy

Mae dymuniad olaf gwr yn parhau i gael ei wireddu 30 mlynedd yn ddiweddarach

Gan ei fod yn marw gyda chanser y gwddf yn 1990, gofynnodd Ron Smith o Hen Golwyn i’w wraig, Margaret, gysegru ei bywyd i helpu i wella bywydau eraill sy’n byw gyda chanser yng Ngogledd Cymru trwy sefydlu Canolfan Ganser yng Ngogledd Cymru. Cyflawnodd Margaret hyn trwy lobïo a chodi arian dygun, ac mae gwaddol hynod y cwpl yn parhau, gyda diolch i genhedlaeth newydd o wirfoddolwyr a gafodd eu hysbrydoli gan waith Margaret.

Sefydlodd Margaret Smith Apêl Canser Ron Smith ym 1991, ddeng mlynedd ar hugain yn ôl i anrhydeddu dymuniadau ei gŵr. Trwy bledio ar swyddogion y llywodraeth, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chymunedau lleol, llwyddodd Margaret a’r tîm o wirfoddolwyr o’i chwmpas i gael cymeradwyaeth ar gyfer Canolfan Ganser ym Modelwyddan, a chodi dros £3miliwn i helpu i ariannu’r prosiect. Gwireddwyd gweledigaeth gŵr Margaret o gael Canolfan Ganser yng Ngogledd Cymru yn 2000.

Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae Apêl Canser Ron Smith, a ailenwyd yn Apêl Canser Gogledd Cymru, yn dal i fynd o nerth i nerth, gan godi arian ar gyfer offer ychwanegol a gwasanaethau gwell yn y ganolfan, a chwffio dros well gofal a thriniaeth i bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser yng Ngogledd Cymru.

Daeth Diana Owen, 69, o Fae Colwyn, yn aelod o Apêl Canser Ron Smith ddeng mlynedd ar hugain yn ôl ar ôl i Margaret ei gyrru ar gyfer triniaeth ganser yng Nghanolfan Ganser Clatterbridge, ac mae hi'n parhau i fod ar Bwyllgor Apêl Canser Gogledd Cymru. Meddai:

“Roedd Margaret yn gorwynt! Roedd hi'n benderfynol o sicrhau nad oedd angen i eraill deithio awr a hanner i gael triniaeth fel y gwnaeth ei diweddar ŵr Ron a minnau. Roedd y daith yn anodd, ac rwyf mor ddiolchgar i Margaret a phawb a gefnogodd ei hymdrech i sefydlu Canolfan Ganser yng Ngogledd Cymru.

“Byddai Ron a Margaret yn falch o wybod bod rhai ohonom a gefnogodd yr Apêl o’r dechrau yn dal i gymryd rhan, ac yn dal i helpu i wella’r gofal a’r driniaeth y mae eraill sydd â diagnosis canser yn eu derbyn. Bu farw Margaret yn 2006 yn 82 oed, ond rydw i a Doris Roberts BEM, sydd yn ei 80au hwyr yn parhau i chwarae rhan weithredol yn yr Apêl. ”

Mae Nyrs Arbenigol Diabetes ac Arennol wedi ymddeol, Carol Pritchard Jones o Ddinbych, bellach yn Gadeirydd Apêl Canser Gogledd Cymru Mae hi’n credu fod ysbryd Ron a Margaret yn parhau.

“Mae pawb sy’n cymryd rhan yn Apêl Canser Gogledd Cymru yn rhannu’r un gwerthoedd a gweledigaeth â Ron a Margaret, ddeng mlynedd ar hugain ar ôl sefydlu’r elusen. Mae dycnwch, a fflach yn gyrru aelodau’r pwyllgor newydd, ac mae gwir awydd i helpu i wneud gwahaniaeth go iawn gan bawb sy'n dewis gwirfoddoli, codi arian a chymryd rhan weithredol yn yr Apêl.

“Gweithiodd Margaret yn galed iawn i gael lleoedd Marathon Llundain ‘bond aur’ ar gyfer yr Apêl, a ac maen nhw’n parhau i fod yn brin fel aur! Dechreuais gymryd rhan yn yr Apêl ar ôl rhedeg Marathon Llundain ar gyfer yr elusen, ac rwy'n falch o ddweud y bydd pobl yn gallu cofrestru ar gyfer ein llefydd yn 2022 o fis Ionawr ymlaen.

“Mae'n anhygoel gweld effaith y rhoddion rydyn ni'n eu derbyn, a faint mae teuluoedd yn elwa o fod yn rhan o'r Apêl. Rwy'n credu y byddai Margaret a Ron yn rhyfeddu o weld beth mae eu sgwrs a'i haddewid yn parhau i'w gyflawni, flynyddoedd yn ddiweddarach. "

I gael mwy o wybodaeth am Apêl Canser Gogledd Cymru, ac i roi rhodd, ewch i: www.northwalescancerappeal.co.uk.