Neidio i'r prif gynnwy

Mae Carol yn myfyrio ar ei chyfweliad diweddar ar gyfer yr 'Sunday Supplement'

14/07/2025

Gan Carol Shillabeer, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn ddiweddar, cefais y cyfle i siarad ar Sunday Supplement y BBC, gan roi myfyrdod personol ynghylch ble rydym ni fel Bwrdd Iechyd, y daith rydym wedi bod arni, ac i ble rydym yn mynd.

Adeiladu Bwrdd Iechyd sy'n ddigon cryf, nid ar gyfer heddiw yn unig, ond ar gyfer yr hirdymor.

Nid yw cael gwahoddiad i siarad am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar fforwm mor gyhoeddus yn cael ei gymryd yn ysgafn o gwbl. Mae'n foment i oedi a siarad yn agored, nid yn unig am yr heriau sy'n ein hwynebu, ond hefyd, y cynnydd rydym yn ei wneud gyda'n gilydd.

Un o’r prif negeseuon rwy’n awyddus i’w rhannu yw ein bod yn canolbwyntio ar adeiladu Bwrdd Iechyd sy'n ddigon cryf, nid ar gyfer heddiw yn unig, ond ar gyfer yr hirdymor. Bwrdd sy'n gwasanaethu pobl Gogledd Cymru mewn ffordd sy'n gynaliadwy, yn ymatebol, ac wedi'i gwreiddio yn yr hyn sydd bwysicaf iddynt.

Nid yw'n ymwneud â newid lleoliad y gwasanaethau’n unig.

Pan fyddwn yn siarad am y newid mewn gwasanaethau, nid yw'n ymwneud â newid lleoliad y gwasanaethau’n unig. Mae'n ymwneud â gwrando o ddifri. Gwrando ar y cymunedau lleol ynglŷn â'r hyn y mae eu gwasanaethau'n ei olygu iddynt; yn ddaearyddol, yn ymarferol, ac yn emosiynol. Gwrando ar ein clinigwyr, sydd wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal gorau ac sy'n gallu gweld o lygad y ffynnon beth sydd angen ei ddatblygu, a hynny ar draws y gymuned ac yn ein hysbytai.

Mae symudiad calonogol wedi bod o ran recriwtio meddygon teulu, ac mae hynny’n rhoi gobaith i mi. Er nad ydym wedi cyrraedd lle’r ydym eisiau bod eto, mae yna ymdeimlad gwirioneddol bod y llanw'n dechrau troi. Ar yr un amser, rydym yn gwybod bod siâp gofal sylfaenol yn newid, a gyda hynny, daw ansicrwydd. Mae rhai pobl yn parhau i fod eisiau apwyntiad traddodiadol gyda’r meddyg teulu, ac rydym yn gweithio'n galed i wella mynediad, wrth ehangu a buddsoddi yn ein gwasanaethau sylfaenol a chymunedol ehangach yn yr un modd.

Ydyn nhw'n hapus?

Wrth gwrs, y tu ôl i’r cyfan mae ein gweithlu, yr 20,000 o staff sy'n ffurfio ein sefydliad. Gofynnodd y cyflwynydd i mi, “Ydyn nhw'n hapus?” Ac fy ateb gonest yw: cymysg. Mae rhai yn falch, fel y dylen nhw fod, o’r gwaith maen nhw’n ei wneud, mae eraill yn poeni am sut rydym yn cael ein gweld yn gyhoeddus. Dyna yw’r realiti o fod yn Fwrdd Iechyd mawr a chymhleth sydd wedi bod o dan y lach.

Ond rydym yn gwneud ymdrechion gwirioneddol i wella ein diwylliant, ymgysylltiad ein staff, ac yn bwysicaf oll, y gwasanaethau rheng flaen y mae pobl yn dibynnu arnynt. Mae gwaith i'w wneud o hyd, ond cefais fy nghalonogi gan y sgoriau ymgysylltiad diweddar yn ein harolwg staff blynyddol. Rwyf am i bobl fod yn falch o weithio yma a gwn y bydd hynny'n dod trwy gynnydd a gofal gwell.

Rydym wedi dewis dull rhagweithiol ac agored fel tîm arwain cymharol newydd.

Rydym wedi dewis dull rhagweithiol ac agored fel tîm arwain cymharol newydd. Rydym yn gwybod nad yw hyder yn cael ei feithrin dros nos, ond caiff ei feithrin trwy onestrwydd, cysondeb, ac wrth wireddu ein haddewidion.

Does gen i ddim diddordeb mewn ticio bocsys.

I gloi, gofynnwyd y cwestiwn anochel i mi; “Hoffech chi i’r Bwrdd Iechyd fynd allan o fesurau arbennig?” Wrth gwrs, byddwn y croesawu’r gydnabyddiaeth honno. Ond nid hynny yw ein hunig symbyliad. Does gen i ddim diddordeb mewn ticio bocsys. Beth sy’n bwysig i mi, a beth sy’n bwysig i ni gyd yw cynnydd go iawn. Cydnabyddiaeth ein bod yn gwella, bod ein staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, a bod y cyhoedd yn teimlo ac yn profi'r newid hwnnw.

Mae’r penderfyniad i dynnu’r mesurau arbennig yn nwylo Llywodraeth Cymru, gyda mewnbwn gan Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Pan fydd yr amser yn iawn, rwy'n ffyddiog y byddant yn gweld yr hyn rydym yn ei adeiladu yma.

Tan hynny, byddwn yn parhau i wneud yr hyn sydd bwysicaf; gwrando, gwella a gwasanaethu pobl a chymunedau Gogledd Cymru.

Gallwch wrando ar y cyfweliad yn llawn ar Sunday Supplement y BBC. Mae fy sgwrs yn dechrau tua 06:53 ac y mae ar gael ar BBC Sounds.