Neidio i'r prif gynnwy

Lansio gwasanaeth COVID Hir ar draws Gogledd Cymru

Mae pobl ar draws Gogledd Cymru sydd â symptomau Covid Hir bellach yn gallu manteisio ar gymorth trwy wasanaeth pwrpasol newydd.

Mae Syndrom Covid Hir wedi'i ddiffinio fel symptomau Covid-19, sy'n para'n hirach na 12 wythnos ac nad oes modd eu hesbonio gyda diagnosis arall. Mae'r cyflwr fel arfer yn arwain at symptomau lluosog, sydd yn aml yn rhyng-gysylltiedig, a allai newid dros amser a gallant effeithio ar unrhyw system yn y corff. Mae symptomau mwyaf cyffredin Covid Hir yn cynnwys gorflinder, diffyg anadl, crychguriadau, poen, problemau wrth ganolbwyntio a gyda'r cof, ac yn arwain at hwyliau isel a gorbryder.

Nod y Gwasanaeth Covid Hir yw rhoi cymorth i gleifion sy'n profi effeithiau'r cyflwr, sy'n gallu effeithio'n sylweddol ar eu gallu i weithredu yn eu bywyd o ddydd i ddydd.

Os bydd cleifion yn tybio bod arnynt Govid Hir, dylent gysylltu â'u meddyg teulu yn y lle cyntaf, sy'n gallu sicrhau bod unrhyw archwiliadau meddygol priodol yn cael eu cynnal, cyn eu cyfeirio at y gwasanaeth. Fel arall, gall cleifion gyfeirio eu hunain trwy wefan y Bwrdd Iechyd.

Caiff y gwasanaeth ei gynnal gan dîm amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd proffesiynol, sy'n cynnwys Uwch Ymarferwyr, Seicolegwyr Iechyd Clinigol, Meddyg Teulu, Ffisiotherapyddion ac Ymarferwyr Cynorthwyol.  Mae'r tîm yn darparu asesiad cynhwysfawr a holistaidd o'r ffyrdd y mae Covid Hir yn effeithio ar fywydau cleifion. Mae'r tîm yn cydweithio â chleifion i gynnig ystod o gymorth ac ymyriadau, sydd wedi'u teilwra'n unigol i'w hanghenion.

Dywedodd Claire Jones, Uwch Ymarferydd Clinigol ac Arweinydd Therapi COVID Hir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Cam cyntaf y daith i'n cleifion yw i ni sicrhau bod unrhyw archwiliadau priodol ar organau penodol sy'n berthnasol i'w symptomau'n cael eu cynnal. Mae hyn yn caniatáu i ni ddiystyru ffactorau eraill a allai fod yn achosi symptomau a hefyd i drin unrhyw gyflyrau isorweddol eraill.  Er mwyn gwneud hyn, mae ein tîm yn cynnal asesiad clinigol, cyn cytuno ar gynllun triniaeth ar y cyd â'r claf. Gan mai gwasanaeth newydd ei sefydlu yw hwn, mae gennym raglen recriwtio barhaus er mwyn parhau i ehangu ein tîm. Rydym wedi cael nifer fawr iawn o gyfeiriadau yn y cyfnod byr ers i ni lansio ein gwasanaeth, a byddem yn ddiolchgar pe bai pobl yn amyneddgar ar hyn o bryd."

Mae'r gwasanaeth yn cadw at ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE, 2021) ac mae'n dilyn egwyddorion Llywodraeth Cymru ar roi gofal yn y gymuned, yn nes at y cartref, ac yn gysylltiedig â gwasanaethau lleol sy'n bodoli eisoes.  Felly mae wedi cael ei sefydlu i gynnig gofal o safleoedd lluosog ar draws Gogledd Cymru.

Dywedodd Dr Rachel Skippon, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac Arweinydd Seicoleg Gwasanaeth Covid Hir: "Mae Gwasanaeth Covid Hir yn darparu ystod o gymorth ac ymyriadau clinigol sy'n cael eu teilwra'n unigol i anghenion cleifion. Mae'r rhain yn cynnwys: rhaglen fesul cam i reoli gorflinder, cymorth i gysgu'n well, ymarferion a strategaethau i reoli diffyg anadl, ymyriadau ar gyfer problemau "meddwl pŵl" fel anawsterau gyda'r cof ac wrth ganolbwyntio, adolygu a monitro meddyginiaeth, rheoli poen, cymorth ar gyfer hwyliau isel a gorbryder; a chymorth o ran y ffordd y mae Covid Hir yn effeithio ar rolau a chyfrifoldebau pobl yn eu bywydau ehangach yn y cartref ac yn y gwaith."

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael manylion am sut i gyfeirio eich hun at y gwasanaeth, ewch i: Gwasanaeth Hunangyfeirio COVID Hir - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales)