Neidio i'r prif gynnwy

Lansio bagiau o roddion newydd i famau ar yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Lansio bagiau o roddion newydd i famau ar yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae nyrsys yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi lansio cynllun i roi bagiau wedi’u llenwi ag eitemau defnyddiol i rieni newydd yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty.

Ariennir y cynllun gan yr elusen o Wrecsam, Cherish, y grŵp cefnogi i rieni sydd wedi cael babanod a oedd angen gofal yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) arnynt.  

Mae’r bagiau yn cynnwys eitemau fel pethau ymolchi a byrbrydau i helpu mamau i ofalu am eu hunain yn ystod eu harhosiad ar y ward.

Sefydlwyd y cynllun gan y nyrsys Laura Chalinor a Carla Selby. Dywedodd Laura, “Mae llawer o rieni ar yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod oherwydd bod eu babi wedi’i eni’n rhy gynnar neu oherwydd ei fod yn rhy wael. Weithiau nid yw rhieni wedi paratoi at eu harhosiad yn yr ysbyty ac efallai nad ydynt wedi cael cyfle i wneud eu bag yn barod oherwydd nad oeddent yn disgwyl dod i mewn.

“Yn aml, y peth cyntaf ar feddwl y rhiant yw’r babi, yn enwedig os yw’r babi yn wael ac felly rydym yn ceisio sicrhau bod mamau yn gallu gofalu amdanynt eu hunain hefyd. Roedd gennym y syniad o roi bagiau sy’n cynnwys nwyddau i helpu rhieni newydd sy’n aros gyda ni.

“Aethom at Cherish i ofyn a fyddent yn fodlon ariannu’r bagiau a chytunwyd i wneud hynny. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth barhaus, maen nhw mor bwysig i ni.

“Roeddem yn ceisio meddwl am eitemau a all fynd yn y bagiau a all gymryd y straen oddi ar y rhieni felly rydym wedi cynnwys eitemau fel poteli dŵr gan fod yn rhaid i’r ward fod yn gynnes i’r babanod ac mae’n bwysig bod y rhieni’n yfed digon i aros yn hydradol. Rydym wedi ychwanegu pethau ymolchi hefyd ac eitemau bach fel elastig clymu gwallt a brwshys, pethau y mae rhywun yn aml yn anghofio amdanynt.

“Mae gwybodaeth sy’n ymwneud â geni babanod gwael neu fabanod sy’n cael eu geni’n gynnar yn cael ei chynnwys y bag hefyd. Rydym yn rhoi'r wybodaeth yn y bag fel nad yw rhieni’n cael eu gorlwytho â gwybodaeth a'u bod yn gallu ei darllen pan fyddant yn teimlo’n barod i wneud hynny.”

Mae Cherish yn ariannu’r bagiau ar sail treigl ac maent yn aml yn cefnogi gwaith y ward.

Dywedodd Ruth Drake, Cadeirydd Cherish, “Mae Cherish wrth ei fodd yn gallu helpu i roi rhywbeth a fydd yn ddefnyddiol i famau ar y ward. Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r cynllun hwn.”