Neidio i'r prif gynnwy

Interniaeth yn Ysbyty Gwynedd yn rhoi hwb enfawr i hyder dyn ifanc ag awtistiaeth

14.02.2022

Mae dyn ifanc ag awtistiaeth wedi ffynnu ers derbyn profiad gwaith yn Ysbyty Gwynedd, sydd wedi helpu i roi hwb i’w hyder.

Ymunodd Owain Williams, sy’n gweithio fel Swyddog Cadw Tŷ ar Ward Glyder ar hyn o bryd, fel intern â chymorth ar interniaeth Ymgysylltu Er Mwyn Newid, Prosiect SEARCH DFN  yn 2020 - dyma raglen interniaeth blwyddyn sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu i ennill sgiliau a phrofiad i symud i gyflogaeth â chyflog.

Oherwydd y pandemig, bu’n rhaid i’r dyn 20 mlwydd oed o Gaergybi ohirio ei interniaeth tan 2021 ac ers hynny mae wedi gweithio ar nifer o wardiau yn cefnogi’r staff clinigol drwy gyflawni dyletswyddau cadw tŷ.

Yn ogystal â chadw’r wardiau’n daclus a sicrhau bod digon o stoc o PPE (Cyfarpar Diogelu Personol) ar gyfer ei dîm, mae hefyd yn helpu i weini’r te a’r coffi i gleifion.

Roedd Owain yn teimlo’n nerfus iawn pan gyrhaeddodd yr ysbyty am y tro cyntaf, gan gofio ei ddiwrnod cyntaf, meddai: “Roeddwn i’n bryderus iawn ynglŷn â dechrau’r interniaeth gan nad oeddwn yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Roeddwn i’n nerfus iawn oherwydd y sefyllfa gyda COVID ond croesawodd y staff fi a’m cysuro drwy ddangos i mi sut i ddefnyddio PPE yn gywir, cadw pellter cymdeithasol a pha mor bwysig oedd dilyn hylendid dwylo da.

“Roeddwn i’n teimlo’n rhan o'r tîm ar unwaith ac rydw i wir yn mwynhau dod i’r gwaith bob dydd gan fy mod yn gwybod fy mod i’n dysgu pethau newydd yn ddyddiol ac yn datblygu fy sgiliau.”

Mae Owain wedi cael ei ganmol gan ei gydweithwyr am ei natur gyfeillgar a’i frwdfrydedd. 

Dywedodd Dr Eslam Abdelaziz, Meddyg Iau ar Ward Glyder: “Mae Owain yn fy nghyfarch gyda gwên gynnes ar y bws ar y ffordd i’r gwaith bob dydd.

“Mae’n bleser ei gael yma, yn barod iawn i helpu ac mae’r cleifion wrth eu bodd yn ei gael ar y ward!”

Ychwanegodd Amanda Owen, Gweithiwr Cadw Tŷ Ward Glyder sydd wedi bod yn cefnogi Owain yn ei rôl ers iddo ymuno â'r ward:  “Mae pawb yn edrych ymlaen at weld Owain pan fydd ar sifft, mae bob amser yn hapus ac yn awyddus i helpu mewn unrhyw ffordd y gall.

“Mae’n hyfryd iawn gweld cymaint mae’r cleifion yn mwynhau sgwrsio ag ef, maen nhw bob amser yn gofyn amdano pan nad yw ar y ward!

“Mae’n bleser pur gweithio gydag ef ac mae wedi bod yn bleser gweld cymaint y mae wedi datblygu yn ystod ei amser gyda ni.”

Mae Prosiect SEARCH yn bosibl drwy arian gan Ymgysylltu Er Mwyn Newid, a chydweithio rhwng BIPBC, Grŵp Llandrillo-Menai, Agoriad Cyf ac Anabledd Dysgu Cymru.

Dywedodd Arweinydd Rhaglen Prosiect Search, Gwyn Llewelyn Hughes: “Rydym bob amser yn falch iawn o weld pa mor dda y mae ein interniaid yn dod yn eu blaenau yn ystod eu hamser gyda ni.

“Pan ymunodd Owain â ni yn Ysbyty Gwynedd am y tro cyntaf roedd yn nerfus iawn a doedd e ddim yn siŵr a oedd am fynd ymlaen â’r interniaeth. Roedd y cyfnod clo yn sicr wedi effeithio arno ac wedi ysgwyd ei hyder, felly roedd hwn yn gyfle perffaith i fagu ei hyder yn ôl a'i helpu i ffynnu.

“Mae wedi bod yn anhygoel gweld y newid ynddo dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n unigolyn gwahanol i’r adeg y cyrhaeddodd gyntaf, rydym i gyd yn falch iawn ohono.”