Neidio i'r prif gynnwy

Hybiau Cymorth Cymunedol, yn amddiffyn ac yn cefnogi ein cymunedau

Mae ein Hybiau Cymorth Cymunedol wedi dosbarthu mwy na 200,000 o becynnau profi ers cael eu lansio yn yr haf.

Mae Hybiau Cymorth Cymunedol yn siop-un-stop am wybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol sydd ar gael i'r holl drigolion. Maen nhw'n cynnig cymorth yn y fan a'r lle ar ffurf Dyfeisiau Llif Unffordd (LFDs) a chymorth i hunanynysu os bydd angen. Maen nhw hefyd yn cynnig cymorth yn y tymor hirach i bobl a allai fod yn ei chael yn anodd prynu bwyd neu dalu'r rhent, cael mynediad at wasanaethau, rheoli dyled neu gyda biliau cyfleustodau. 

Mae 11 Hwb wedi'u lleoli ar draws Gogledd Cymru lle mae mwy na 100 o sefydliadau cymunedol gwahanol wedi dod at ei gilydd i ddarparu ystod eang o wasanaethau.

Ers cael eu lansio, mae mwy na 200,000 o becynnau LFD wedi'u dosbarthu, gan roi cymorth o ran ymateb i'r pandemig a helpu i amddiffyn cymunedau ar draws Gogledd Cymru.

Dywedodd Lisa Goodier, Rheolwr Arweiniol rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu: "Mae'r garreg filltir hon yn un enghraifft yn unig o gyflawniadau arwyddocaol lawer ein Hybiau Cymorth Cymunedol. Ers cael eu lansio, maen nhw wedi rhoi ystod eang ac amrywiol o gymorth i bobl, ac mae'n bosib nad yw llawer o bobl yn ymwybodol bod y cymorth hwn ar gael felly rydym ni'n awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth hwn.

"Mae wedi bod yn gyfnod hynod anodd i gymaint o bobl a pho fwyaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein cymunedau a'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol, gorau oll."

Cafodd y cynllun ei beilota yn y lle cyntaf fel rhan o raglen Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru, gan ddarparu cynnig 'Diogelu' estynedig ac yn y tymor hirach mewn cymunedau difreintiedig yng Ngogledd Cymru. Mae'n dod â'r Bwrdd Iechyd, Awdurdodau Lleol, y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol at ei gilydd i roi cymorth i gymunedau mewn amrywiaeth o ardaloedd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Hybiau Cymorth Cymunedol a sut i gael mynediad atynt ar ein gwefan yma.