Neidio i'r prif gynnwy

Viki Jenkins, Nyrs Methiant y Galon yn ennill gwobr Nyrs Gardiofasgwlaidd y Flwyddyn

Enillodd nyrs sy’n arbenigo mewn methiant y galon ac ecocardiograffeg wobr Nyrs Gardiofasgwlaidd y Flwyddyn yng ngwobrau'r British Journal of Nursing eleni.

Mae Viki Jenkins sy’n Uwch Ymarferydd Nyrsio ac yn Ecocardiograffydd, yn cael ei chydnabod am ei gwaith yn datblygu a threialu ap sy’n monitro cleifion cardiaidd trwy eu ffonau symudol yn eu cartrefi.

Datblygwyd yr ap gan Huma a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a fu, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ei dreialu yn ystod haf 2021.

Fel rhan o’r treialon, cafodd y cleifion offer gan gynnwys cyff pwysedd gwaed, clorian ac ocsifesurydd curiad y galon er mwyn cymryd darlleniadau yn eu cartrefi.

Roedd arbenigwyr cardioleg yn gallu monitro symptomau a chynnydd pob claf o bell ac yn cynnal ymgynghoriad ar fideo i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon. Os oedd angen, trefnwyd ymweliadau â’r ysbyty ar gyfer unrhyw driniaethau neu ymgynghoriad pellach.

Dywedodd Viki: “Roedden ni eisiau adeiladu ar y datblygiadau technoleg ddigidol a wnaed ers dechrau’r pandemig. Roedd yr ap yn estyniad o hynny, ond roedd angen deall pa mor hawdd neu anodd yw hi i bobl ddefnyddio’r ap. A dyna oedd pwrpas y peilot hwn.

“Roedd yn gyfle gwych i ni ystyried sut y bydd y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol – mae COVID-19 wedi dangos bod yn rhaid i ni groesawu arloesi fel hyn.

“Mae cleifion yn cael yr ymyriadau sydd eu hangen yn gynt. Mae’n gyflym ac yn hawdd i mi i’w ddefnyddio ac mae’n arbed cleifion rhag gorfod dod i’r ysbyty’n ddiangen.”

Mae Gwobrau’r British Journal of Nursing yn ddathliad blynyddol uchel ei barch sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn nyrsio.

Dyfarnir gwobr Nyrs Gardiofasgwlaidd y Flwyddyn i nyrs sydd wedi cyflawni rhagoriaeth neu wedi dangos dawn am arloesi, ac wedi defnyddio’r rhain i wella mewn modd y gellir ei fesur, y gofal i gleifion yn y maes cardiofasgwlaidd.

Wrth siarad am y wobr, meddai Viki: “Mae’n fraint ennill gwobr Nyrs Gardiofasgwlaidd y Flwyddyn  ar y cyd gyda Mandie Welsh o Gwm Taf. Buom yn gweithio gyda’n gilydd i gynllunio a threialu’r monitro o bell er mwyn rheoli ein cleifion risg uchel sydd â methiant y galon.

“Mae hi wedi bod yn broses ddysgu aruthrol ac wedi cymryd amser i’w gynllunio. Ond mae hefyd wedi bod yn brofiad cyffrous a boddhaol iawn gweld sut mae hyn wedi bod o fudd i gleifion ac wedi fy helpu i weithio mewn ffyrdd newydd.”

Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Fedra i ddim rhoi digon o ganmoliaeth i Viki am ei hymroddiad i’w chleifion, ei chydweithwyr ac i’r proffesiwn.

“Mae hi’n llawn haeddu’r wobr hon ac mae hefyd yn gymeradwyaeth anhygoel am y gwaith gwych mae hi wedi’i wneud sydd wedi bod o gymaint o fudd i’w chleifion.”