Neidio i'r prif gynnwy

Graddedigion Prosiect SEARCH yn dathlu blwyddyn lwyddiannus

Graddedigion Prosiect SEARCH yn dathlu blwyddyn lwyddiannus

Daeth grŵp o interniaid Prosiect SEARCH yn raddedigion balch y mis hwn, gan dderbyn eu tystysgrifau mewn seremoni gyda’u teuluoedd yn bresennol.

Mae Prosiect SEARCH yn interniaeth 12 mis ar gyfer unigolion ifanc sy'n gadael addysg sydd ag anableddau dysgu neu awtistiaeth.

Prif amcan Prosiect SEARCH yw diogelu cyflogaeth gystadleuol. Yn genedlaethol, mae'r raddfa ddi-waith ar gyfer oedolion sydd ag anableddau/awtistiaeth oddeutu 90 y cant, mae Prosiect SEARCH yn cefnogi datblygiad sgiliau ac ymddygiad sy'n cefnogi'r oedolion ifanc hyn i mewn i waith ystyrlon sy'n talu. 

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod cyflogaeth yn cael effaith gadarnhaol ar gynhwysiad cymdeithasol ac iechyd yn y tymor hir.  

Dywedodd Mandy Hughes, Rheolwr Moderneiddio'r Gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Fel Bwrdd Iechyd rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gennym ddiwylliant cynhwysol ble mae arweinwyr yn dangos yn rheolaidd eu hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb o fewn BIPBC a thu hwnt i alluogi gweithlu teg a chynhwysol.

"Rydym wrth ein boddau gyda llwyddiant ein hail garfan o interniaid Prosiect SEARCH, roedd y seremoni raddio yn ffordd hyfryd o ddangos cefnogaeth barhaus y Bwrdd Iechyd a'n partneriaid i'r rhaglen.

"Rydym yn dymuno llwyddiant parhaus i'r holl raddedigion."

Cynhaliwyd y seremoni yng nghampws Glynllifon, Grŵp Llandrillo Menai gyda'r tystysgrifau yn cael eu cyflwyno i'r interniaid gan Mark Poli, Cadeirydd BIPBC, a Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai.

Dywedodd Mr Polin: "Roedd yn anrhydedd i mi fynychu'r seremoni raddio i ddathlu llwyddiannau ein hinterniaid.

"Hoffwn ddiolch i'r partneriaid, Engage to Change, Agoriad Cyf, Grŵp Llandrillo Menai ac Anabledd Dysgu Cymru sy'n gweithio gyda ni i gefnogi’r oedolion ifanc hyn a’u hannog i fod y gweithwyr gorau y gallent fod.

"Da iawn i bawb sy'n gysylltiedig â Phrosiect SEARCH, a llongyfarchiadau i'r holl interniaid ar gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus."

Yng Nghymru, mae Prosiect SEARCH yn cael ei ariannu fel rhan o'r prosiect ehangach pum mlynedd Engage to Change, gan Gronfa'r Loteri Fawr, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae gwaith Prosiect SEARCH BIPBC yn ymdrech ar y cyd rhwng Agoriad Cyf, Grŵp Llandrillo Menai, BIPBC, ac Anabledd Dysgu Cymru. Mae'r bartneriaeth yn darparu fframwaith ar gyfer rhaglen interniaeth ar gyfer unigolion ifanc sydd ag anableddau dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Ysbyty Gwynedd.